Cymry Rhyfel Cartref America

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Mer 07 Ion 2004 11:30 am

Nes i feddwl hynny yn y pwt agoriadol, ond dwi'n credu mai just Jerry Hunter oedd o!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 07 Ion 2004 11:33 am

Clarice a ddywedodd:Oedd na rywbeth yn bod ar safon y llun?


O'n i ddim yn gallu cael unrhyw fath o reception felly fe fethes i'r rhaglen. Damo'r tai teras 'ma! :(
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Ifan Saer » Mer 07 Ion 2004 12:06 pm

Chwip o raglen dda. Da iawn $4C am newid. A gwaith da gan Jerry Hunter.

Mae o'n un o'n darlithwyr i yn y coleg, a mae o'n codi cywilydd ar rwyn efo'i Gymraeg gwych, a'r cymaint mae'n wybod am hanes Cymru.

Ond wnai ddim son am ei 'symudiadau', rhag ofn i mi golli marciau...

Gobeithio fod y rhaglen hon yn argoeddi'n dda ar gyfer $4C yn 2004...
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan brenin alltud » Mer 07 Ion 2004 12:10 pm

eusebio a ddywedodd:
Tasa fo mond yn cadw ei freichiau'n llonydd pan mae o'n siarad!!


Swn i'm yn meindio bod yn'i freichiau aflonydd e am bum munud... :winc:

Oes 'na rywun 'di darllen y llyfr, Llwch Cenhedloedd?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Cardi Bach » Mer 07 Ion 2004 12:17 pm

Ai reial rhaglen dda.
O'n ine wedi sylwi ar y symudiade rhyfeddol o chwimwth odd gydag e a meddwl fod spid y camera neu rwbeth wedi newid, ond eto odd y 'lip-sinc' a'r siarad yn mynd yn berffaith, so feddylies i mai'r doctor hunter ei hun odd yn heiper-actif :D

Yr unig feirniadeth odd gyda fi yw, er fod Hunter o hyd yn cyfeirio at y toreth o ffynhonellau i brofi rhan y Cymry yn y rhyfel, odd yr enghreifftiau oll yn dod o dim ond tua tri ffynhonnell - e.e. odd e'n cadw gweud fod pobl yn sgwennu cerddi di-ri am y rhyfel, ond eto dim ond yr Eos boi na odd yn cael ei ddefnyddio - o hyd - fel enghraifft. Yn yr un modd y gweinidog gyda syrnam od o Bala (Benjamin Sha...rhwbeth?) a'r boi o Sir y Fflint...o ie, a unweth y boi o Aberdar. So er yr holl 'alleged' ( :winc: ) ffynhonnelle, dim ond rhai enghreifftiau o'r un bobl oedd ganddo.

Ond wy ddim yn ame fe o gwbwl, a ma'n siwr y bydd raid i fi ddarllen y llyfr cyn ei feirniadu'n llwyr.

Ond ar y cyfan rhaglen arbennig o ddiddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Nici_B » Mer 07 Ion 2004 3:42 pm

Os dach chi yn y Gogledd nos Sul, mae na gyfle i chi weld yr ail bennod a mwy yn Theatr Gwynedd. Dyma'r manylion.

Mae BAFTA CYMRU yn cyflwyno
digwyddiad hanesyddol, llenyddol, llunyddol...

yn Theatr Gwynedd, Bangor
7.30 NOS SUL IONAWR 11 2004

Dangosir

CYMRY RHYFEL CARTREF AMERICA Pennod 2
Cwmni Da ar S4C

yng nghwmni

y prifardd IFOR AP GLYN Cynhyrchydd
Dr JERRY HUNTER Coleg Prifysgol Bangor
GARETH OWEN Camera

gyda theyrnged i waith Gareth Owen gan
VAUGHAN HUGHES Ffilmiau’r Bont

Ffilm - barddoniaeth - trafodaeth – lluniaeth
CROESO I BAWB

Manylion pellach gan
Ruth Morgan - ruth@bafta-cymru.org.uk
Nici_B
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Llun 30 Meh 2003 12:28 pm
Lleoliad: c'fon, c'dydd

Postiogan Creyr y Nos » Mer 07 Ion 2004 4:44 pm

Rhaglen wych! Un o uchafbwyntiau s4c dros y gwyliau. Mi oedd e'n broffesiynol iawn, a'n hynod o ddiddorol, yn enwedig y farddonaieth a dyddiadur y milwr a oedd yn son am y profiad o saethu ei elynion. Ges i sioc clywed bod na dri papur Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn America yr adeg yna, cwl ife.

Mi ges i'r bendro yn gwylio Jerry Hunter fyd! :winc:
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Groovy » Mer 07 Ion 2004 5:23 pm

Nici_B a ddywedodd:yng nghwmni

Dr JERRY HUNTER Coleg Prifysgol Bangor


Awe Brenin Alltud, dyma dy gyfle di!
Mond ishe i ti chwifio dy freichiau o gwmpas mewn ffordd greadigol, an' he's yours :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Groovy
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 298
Ymunwyd: Iau 11 Rhag 2003 1:54 pm
Lleoliad: Pen yn y gwynt a thraed ar y llawr

Postiogan Sosij Fowr » Iau 08 Ion 2004 11:10 am

oedd rywun arall yn cael ei atgoffa o gymeriad 'Max Headroom' Bobi Dafro wrth wrando ar Doctor Jerry?

rhaglen hynod ddiddorol. be geith y Doctor gyflwyno nesa'?
Boed Sosij Fowr
Neu Sosij Fach
Yr un yw'r owt-cum
Gwagio sach
Sosij Fowr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 320
Ymunwyd: Iau 08 Ion 2004 10:46 am
Lleoliad: fyny tintws Tina Tats

Postiogan Mali » Iau 08 Ion 2004 10:51 pm

Diolch am y safle we Eusebio , hefyd am y linc gan Nic Dafis. Diddorol iawn. Ddim yn cael S4C yma , dim ond Radio Cymru!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai

cron