Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mae hynny'n wir, mae digon o gyn-staff gyda chwyn allan yna dwi'n sicr, ella fod y rhaglen heb wneud ei gwaith cartref ddigon da? Ydi EA gyda digon o bwer i stopio rhywun rhag gweithio yn y diwydiant yna eto neu ydi'r ofn o fod yn chwythwr-chwiban(!) a chael enw drwg yn ddigon ti'n meddwl? Ella buasai'n tarfu ar eu rhwydwaith cysylltiadau yn ormod iddynt beidio dod mlaen. Mae'r diwydiant yna'n fickle iawn dwi'n credu am fod pobl yn dibynnu ar gontractiau tymor byr.
Ma gan Emyr Aflan enw digon gwael yn y byd cyfryngol ymysg cwmniau teledu annibynnol arall (ond o bosib oherwydd cenfigen). Efalle mae'r theori chwythu-chwiban ydy'r rheswm? Mae Aflan yn bendant yn un o'r big boys, gyda cytundebau mawr iawn fel fideo Stereophonics yn Nghastell Caerdydd a Chyngerdd Bryn Terfel, heb son am sawl comisiwn i S4C ac wrthgwrs y BBC. Ond dwi ddim yn meddwl fod ganddo fe ddylanwad o gwbwl tu allan i Avlanti. Ma pawb yn y 'diwydiant' yn gwybod fod o'n slimy ac yn sharc.