Tudalen 3 o 12

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 4:58 pm
gan Gimpster
'Nialwch a ddywedodd:WHACIO - Rhaglen hanner awr le ma dynion mawr chwysllyd gyda "pool cues" yn dyrnu'r corrach bach na gyda'r llais o falwn "helium", Rhys Richards.


Siawns ti'n meddwl Rhys ROBERTS, os ti'n mynd i slagio fo off o leia cal ei enw'n iawn! :winc:

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 4:58 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Waw Ffactri

Ry'n ni'n dilyn holl ddiawlaid diog S4C wrth iddynt godi am bedwar o'r gloch yn y bore, gweithio shifft 12 awr, coginio pryd o fwyd i'w teulu o bump am lai na £5, cyn dychwelyd i'r gwely'n barod am ddiwrnod arall o waith.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 5:03 pm
gan DAN JERUS
Da 'di Drills 'de?

Dilwyn Pierce sy'n cyflwyno rhaglen am fanteision power tools

Fondue, Rhyw a Deinosors

Rhaglen ddogfen yn dilyn diwrnod o waith big guns S4C

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 5:15 pm
gan Geraint
O Bontcanna I Lanishen

Rhaglen materion cyfoes, yn trin a materion y dydd ar draws y wlad. Wythnos yma, a ydy Cymraeg bwydlen y Mochyn Du yn gywir?

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 3:53 am
gan Wil wal waliog
Trafod y Ddraig

Rhaglen yn penderfynnu ar yr 20 'shot' orau o'r Ddraig goch yn hanes teledu. Bydd enwogion Cymru yn rhoi dadl dros eu hoff 'shots' o'r ddraig, e.e. bydd Caryl Parry Jones yn dadlau taw'r shot orau o'r ddraig ma' hi byth wedi 'i weld ar y teledu oedd pan naeth hi weld y fanner ar gefn Colin Jackson pan naeth e' dorri record y byd! Ac wedyn wrth gwrs fyddai pobl yn gorfod ffonio mewn i ddewis pryd oedd y 'shot' orau o'r ddraig goch ar y teledu.

(Oni just yn lico'r enw!)

Cyflwynwyr: hmmmmmmm?......Angharad Mair...............a..............Max Boyce.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 3:55 am
gan Wil wal waliog
damo, nes i adel bold a underline mlan! sori

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 9:15 am
gan ffwrchamotobeics
TIPYN O STATS

Drama am bobl flin Caernarfon yn ffraeo'n ddiderfyn am blant/drygs/diffyg toilet roll/statistics.

E MICRODOT

Tebyg i I-DOT ond hefo'r cyflwynwyr a'r gwesteion 'z list' ar gyffuriau 'class A' pur. Gwelliant enfawr ar y cyfresi a fuodd.

CEFN GLAD
Dai Jones Llanilar yn teithio gwlad y gan yn ceisio shelffo pob dynes o'r enw Gladys.

TALCUM KHALED

Drama am bobl flin Phorthmadog yn ffraeo'n ddiderfyn am arferion bathrwm, ac yn cyflwyno Bryn Fon fel Khaled, perchennog y ty bwyty Indiaidd, sy'n hoff o fotobeics.

JONI JONSI

Helyntion sgamp/twrdyn o hogyn amser rhyfel a'i sach ddyrnu hud.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 9:22 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Waw Ffactri II

Dilynwch BB Aled, boi oedd yn arfer bod yn Catatonia a'r criw, wrth iddyn nhw ddilyn ymgeiswyr Waw Ffactor i'r ffactri lud. Gydag ymddangosiad arbennig gan Emile Heskey.

rhaglen

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 12:00 pm
gan Clarice
WAW TRACTOR

Dai Jones Llanilar, Sulwyn Thomas a Dei Tomos ar banel sy'n penderfynu pa ffarmwr ifanc sy' â'r tractor gore.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:07 pm
gan DAN JERUS
Ugley

Rhaglen arall yng nghwni y cogydd mediocre, Ugley.Heno, ar draul talwyr trethi Cymru, mae'n ymweld a teulu o Dde America ac yn coginio egg and chips iddynt, cyn cael token trip rownd eu tref a chogio gwybod pethau am economi'r wlad.(Dim isdeitlau)


Gwallt ar Grwydyr

Ffion Gwallt sy'n teithio o amgylch Cymru mewn balwn.Yr wythnos yma, pwyri o uchder ar drugolion Llanuwchlyn.