gan Siani » Iau 05 Medi 2002 8:56 pm
Teimlais i'r un ffordd pan welais i "Twin Town", cymaint o lefydd cyfarwydd - er eu bod nhw wedi chwarae gemau gyda'r daearyddiaeth. Ro'n nhw'n troi cornel yn Abertawe, ac yn sydyn ro'n nhw ym Mhort Talbot!
Sa' i jest yn meddwl bod "Hedd Wyn" yn ffilm wych, mae prawf gyda fi ei bod hi. Ar ol gweld y ffilm dros ugain o weithiau ych chi'n gwbl ymwybodol o unrhyw wendidau. Na, dw i ddim yn ffanatig "Hedd Wyn", mae rhaid i wneud hyn fel rhan o 'ngwaith (dyfalwch beth!). Mae'r ffaith mod i'n gallu ei goddef cymaint o weithiau yn dangos pa mor dda yw hi.
Rwy'n cytuno gyda ti am 31.12.99. Da dros ben. "Solomon a Gaenor" - hefyd yn gallu cael ei gweld drosodd a throsodd. Gwelais i hi yn y sinema (fersiwn Gymraeg - gydag isdeitlau) gyda chyd-weithwraig sy'n Saesnes. Mae hi'n tueddu bod yn wrth-Gymraeg, a doedd hi ddim yn meddwl bod ffilmiau gwerth eu gweld yn y Gymraeg, ond bu raid iddi ymddiheuro y noson honno. Gwelodd ffrinidau i fi'r ffilm yn y fersiwn Saesneg - maen nhw'n Iddewon, ac ro'n nhw wedi uniaethu a'r hanes ynddi.
Mae hwnna wedi gwneud i fi feddwl - beth ych chi'n meddwl am wneud ffilmiau a rhaglenni teledu cefn wrth gefn? Arhoswch funud, dechreua i bwnc newydd nawr.