Tudalen 1 o 1

Ffilmiau Cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Medi 2002 9:26 pm
gan Siani
Beth ych chi i gyd yn meddwl am ffilimau yn y Gymraeg? A ddylai "Hedd Wyn" a "Solomon a Gaenor" fod wedi ennill Oscar? Oes hoff ffilmiau Cymraeg gyda chi? [/i]

PostioPostiwyd: Mer 04 Medi 2002 11:13 pm
gan nicdafis
<a href="http://us.imdb.com/Title?0091521">Milwr Bychan</a> oedd y ffilm gyntaf Gymraeg ei hiaith welais i erioed, a wnaeth argraffiad mawr arnaf, er gwaethaf y problemau gyda rhai o'r actorion (nid Richard Lynch - oedd e yn dda iawn yn hon ac yn <a href="http://us.imdb.com/Title?0109329">Branwen</a> hefyd).

Nid ffilm Gymraeg, ond Cymreig oedd <a href="http://us.imdb.com/Title?0119322">House of America</a> ac mae <a href="http://us.imdb.com/Title?0280969">ffilm newydd</a> gan yr un cyfarwyddwr yn edrych yn ffantastic.

PostioPostiwyd: Mer 04 Medi 2002 11:20 pm
gan Siani
Heb weld "Milwr Bychan", ond rwy'n cytuno gyda ti, roedd Richard Lynch yn wych yn "Branwen", hefyd yn "Fondue, Rhyw a Deinosors", ond dylai hynny fynd yn y seiat teledu, siwr o fod - ond rwy'n falch bod S4C yn ail ddarlledu'r gyfres, yn dechrau heno!

PostioPostiwyd: Iau 05 Medi 2002 12:53 am
gan Cymrocwl
Mae'r ffilm Hedd Wyn yn un dda, ynghyd a Solomon a Geinor, dylai S&G fod wedi ennill Oscar yn bendant. Rwy'n hoff o'r ffilm Hambons fy hun, er ei bod hi braidd yn cheesy ac yn tueddu delfrydu pethau, yn enwedig at y diwedd....

Roedd y ffilm a ddangoswyd adeg y mileniwm, 31:12:99 hefyd yn dda. Mae'n braf gweld ffilm yn cael ei lleoli yng Nghasnewydd, yn enwedig ffilm Gymraeg. Sioc oedd gweld ein hen stryd yn Rhisga yn ymddangos ynddi tho!

PostioPostiwyd: Iau 05 Medi 2002 8:56 pm
gan Siani
Teimlais i'r un ffordd pan welais i "Twin Town", cymaint o lefydd cyfarwydd - er eu bod nhw wedi chwarae gemau gyda'r daearyddiaeth. Ro'n nhw'n troi cornel yn Abertawe, ac yn sydyn ro'n nhw ym Mhort Talbot!

Sa' i jest yn meddwl bod "Hedd Wyn" yn ffilm wych, mae prawf gyda fi ei bod hi. Ar ol gweld y ffilm dros ugain o weithiau ych chi'n gwbl ymwybodol o unrhyw wendidau. Na, dw i ddim yn ffanatig "Hedd Wyn", mae rhaid i wneud hyn fel rhan o 'ngwaith (dyfalwch beth!). Mae'r ffaith mod i'n gallu ei goddef cymaint o weithiau yn dangos pa mor dda yw hi.

Rwy'n cytuno gyda ti am 31.12.99. Da dros ben. "Solomon a Gaenor" - hefyd yn gallu cael ei gweld drosodd a throsodd. Gwelais i hi yn y sinema (fersiwn Gymraeg - gydag isdeitlau) gyda chyd-weithwraig sy'n Saesnes. Mae hi'n tueddu bod yn wrth-Gymraeg, a doedd hi ddim yn meddwl bod ffilmiau gwerth eu gweld yn y Gymraeg, ond bu raid iddi ymddiheuro y noson honno. Gwelodd ffrinidau i fi'r ffilm yn y fersiwn Saesneg - maen nhw'n Iddewon, ac ro'n nhw wedi uniaethu a'r hanes ynddi.

Mae hwnna wedi gwneud i fi feddwl - beth ych chi'n meddwl am wneud ffilmiau a rhaglenni teledu cefn wrth gefn? Arhoswch funud, dechreua i bwnc newydd nawr.

PostioPostiwyd: Maw 24 Medi 2002 11:03 pm
gan Meinir Thomas
Yn sicr, dylsai "Hedd Wyn" a "Solomon a Gaenor" fod wedi ennill Oscar. Mae'r ffilmiau'n arbennig o dda. Mae'r ddau'n gwneud i mi lefain ar eu diwedd nhw hefyd!!

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 1:00 am
gan Siani
Yn gwmws, Meinir! Rwy wedi gweld Hedd Wyn tua 25 o weithiau erbyn hyn (drwy fy ngwaith fel darlithydd) a Solomon a Gaenor rhyw 10 o weithiau, ac er nad wy'n gallu llefain mwyach wrth eu gwylio, rwy'n dal i deimlo eu pwer - ac mae wastod dagrau yn llygaid rhai o 'myfyrwyr bob tro.

Gyda llaw - croeso i'r fforwm! Cyfranna'n aml!

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 9:46 pm
gan Gwestai
Diolch am y croeso! :D Rhaid dweud, mae'r fforwm yn un dda iawn! 'Nes i glywed amdano ar raglen Gang Bangor, felly 'es i'n syth i gael pip. 'Nes i astudio Hedd Wyn ar gyfer Safon Uwch Cymraeg, ond ro'n i wrth fy modd a'r ffilm ymhell cyn hynny. Wedi ei hastudio, rwy'n gallu gweld ystyron eraill mewn geiriau a golygfeydd, ac mae'n wych! Hedd Wyn yw'n ffefryn i allan o "Hedd Wyn" a "Solomon a Gaenor". Gwell gen i Geraint Roberts i Ioan Gruffydd!! :winc: Ond mae'r ddau'n arbennig o dda.

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 10:03 pm
gan nicdafis
[Meinir: ti ddim wedi logo i mewn. Dyna pam mae dy negeseuon yn dangos fel "Gwestai". Ond neis i weld rhywun sy mor frwdfrydig yn ei bostio ;-) Croeso mawr i ti.]