Irreversible

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Irreversible

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 24 Chw 2003 8:00 pm

Holy Shit!

Y ffilm mwya dychrynllyd dwi rioed wedi ei weld, heb os. Dim Man Bites Dog, dim the Pianist dim unrhyw horror...ella Salo...ond eto fyth dydi hwnna ddim mor dreisgar a hwn. Mae na olygfa lle ma boi yn cael ei ladd a fire extinguisher ar y cychwyn nath neud i fi bron a gorfod troi i ffwrdd. Nes i deimlo ias oer a'n stumog yn suddo r'un pryd. Mae o mor graffig ac mewn un shot hir, ffiaidd. Ac mae'r olygfa 9munud lle mae dynes yn cael ei threisio yr un mor horiffig. Mae'n wir wneud i chi deimlo'n sal.
Un peth ma'n dangos ydi fod trais ddim yn glamorous ac wedi ei baentio a minlliw fel ma Hollywood fel arfer yn gneud. Fod trais yn bod ac mae'n hyll. Ydan ni'n hypocrites hollol yn deud fod ffilms fel hyn yn warth pan mai ffilms sydd ddim yn dangos realiti trais sy'n warth go iawn?

Wedi deud hyn mae'n ffilm drawiadol yn weledol ac mae'r sain yn wirioneddol wych, mae'r cymeriadau'n actio'n goeliadwy ac yn llawn egni, ond mae'r stori bach yn dila er y ffordd ma hi di'w deud. Cerwch i'w gweld os da chi isio gweld sinema extreme sinema hardcore, ( blackhole core fe ma boi y Guardian yn ei alw!)a ffurfio eich barn eich hun. Y marn i, ma'r cyfarwyddwr yn amlwg yn dalentog iawn ond dyw hwn ddim yn brogresiwn o'i ffilm gyntaf. Hefyd peidiwch a mynd os da chi'n diodde o epilepsi, mae na un darn nyts nath beron a neud i fi gael ffit.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Llun 24 Chw 2003 8:41 pm

Mi hoffwn i weld hon, ond sa i'n credu fydd hi'n dod i Aberteifi, hyd yn oed i'r cymdeithas ffilmiau. Rhaid i mi aros am y fid.

Sôn am ffilmie erchyll, weles i Audition diwrnod o'r blaen, ac oedd rhaid i mi droi o'r sgrin cwpl o weithiau.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cardi Bach » Maw 25 Chw 2003 9:04 am

Wy'n cofio darllen y 'rifiws' am hon pan gas hi ei ryddhau ar gyfer gwobrwyon Monte Carlo (tua 3 mis yn ol, ie?).

Y ddwy olygfa odd pawb yn siarad amdani odd y ddwy wyt ti Nwdls wedi cyfeirio atyn nhw, ac odd y BBBC yn ystyried eu torri mas o'r ffilm yn gyfan gwbwl.

Mae'n debyg eu bod hi'n cael eu 'threisio' go iawn yn y ffilm, a dyna pam ei fod e mor graffig - hynny yw, mi roddodd hi consent ayb ayb, ond fod y gyfathrach yn acshiwal ac yn brwtal, a hithau'n fodlon er lles celfyddyd y ffilm!

Mae'n debyg fod y cynhyrchydd (ffilm Ffrengig ie? neu gath e ei neud yn Ffrainc neu rwbeth fel'na) yn wel nown am ffilmiau ecsplisit a brwtal.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 25 Chw 2003 6:38 pm

Ie Gaspar Noe ydi enw'r Cyfarwyddwr/Awdur/Auteur. Welis i Carne, ei ffilm fer gyntaf oedd yn ddigon brutal, ond mae ganddo steil newydd bron yn gneud i'r llun edrych yn fudr. Ma'n dilyn mlaen chydig o'r traddodiad Frengig 60'au o dorri rheolau ffilm, mae'n efelychu chydig ond yn llwyddo i fod yn wreiddiol mewn sawl ffordd. MAe rhai o'i shots yn y ffilm yn wirinoneddol wych ac yn cydfynd a'r olygfa'n berffaith.

Dwi heb weld ei ail ffilm Seul Contre Tous (I Stand Alone) ond mae fy ffrind wedi dweud ei bod yn wych ac mai estyniad o Carne ydyw hi (mae Carne yn ffurfio hanner awr cynta'r ffilm). Roedd hi'n un o'i hoff ffilmiau tua 4 mlynedd nol. Ella fydd raid ail-ymweld a hi i wneud cymhariaeth iawn o'r ddwy.

O weld be ti'n gweld ar y Sgrin allai goelio fod hi wedi gadael i'r boi ei ffenetreiddio(!). Ei sgrechian hi sy'n rhoi iasau lawr eich cefn mae'n wir swnio mewn trawma. Dim ond 10 eiliad nath y BBFC dorri allan yn y diwadd a ma hynny'n dda o beth. Sut ellir torri o hwn sy'n olwg real ar drais pan welir trais desensitised mewn cymaint o ffilmiau eraill. Dwi'm yn bod yn moralistic am y body counts 'glan' ac y dylsa ni weld y gwaed yn ffilmiau James Bond, jest deud fod rhaid bod yn hafal. Mae sinema yn gyfrwng sy'n peri i'r gynulleidfa adlewyrchu ar fywyd ac eu bywyd fel unrhyw gelfyddyd arall. Os da chi'n cerdded allan o'r sinema yn meddwl am mewn cymdeithas drais, y ffordd da ni'n portreadu a gweld trais, a sut ma dial yn gallu cymryd person i stad meddyliol anifeilaidd ma'r ffilm yn werth ei gweld - heb ei thorri. Os da chi'm isio gweld o cerddwch allan.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron