Mae S4C eisiau gwybod beth yw ein hoff raglenni dros yr ugain mlynedd diwethaf (mae gwobr - teledu digidol - na, sai'n gweithio i S4C!). Sut ych chi'n mynd i bleidleisio? Ro'n i'n trafod hyn gyda phobl yn y gwaith heddiw, ar ol cael fy nghopi o "Sgrin" y bore 'ma. I fi, er ei bod hi wedi ei chynhyrchu mwy nag ugain mlynedd yn ol, does dim modd anwybyddu "Fo a Fe". Mae rhai pobl rwy'n nabod yn galaru ar ol "Heno" - a rhai yn dweud rhwydd hynt iddi. Ymysg fy nghyd-weithwyr roedd "Sgorio" yn boblogaidd (hyd yn oed ymysg y di-Gymraeg), a hefyd "Cefn Gwlad", "C'mon Midffild" a "Sali Mali"! I fi, roedd "Fondue, Rhyw a Deinosors" mor wych - oce, rwy'n un o'r garfan "trideg-rhywbeth", a ro'n i felly yn fwy tebygol o uniaethu a hi nag eraill, ond rwy eisiau gwybod un peth - sut o'n nhw'n gwybod am fy mywyd i? Sut o'n nhw'n gallu darllen fy meddwl i? Rwy'n nabod rhai sy'n ei charu, a rhai sy'n ei chasau - does dim hanner ffordd, sai'n credu. A rwy'n mwynhau'r ail-ddarllediad ar y funud.
Felly, beth amdani. Eich 5 hoff raglen erioed ar S4C?