5 Gore:
1. C'Mon Midffild
2. Fo a Fe
3. Amdani
4. Darllediadau Gemau Rygbi cenedlaethol pan oedd Huw Eic a Ray Gravell yn bartneriaid - dyddiau da!
5. Pan yn blentyn Hanner Awr Fawr/Hafoc
(Ma Gogs hefyd yn gwthio am le agos iawn)
(Ma'r rhaglenni hanes plant odd criw cwmni theatr gorllewin morgannwg yn neud nol ddiwedd yr wythdege a ddechre'r nawdege hefyd yn uchel iawn a'n haeddu clod. Oes rhywun yn cofio enw'r rhaglen?)
ma'n rhaid nodi fod S4C yn gyson reolaidd yn arbennig o dda yn darlledu rhaglenni a cherddoriaeth byw - Can i Gymru, Cnapan, Sesiwn Fawr, Gwyl y Faenol - ta waeth pa gwmni sy'n eu cynhyrchu.
5 Gwaethaf:
1. Y Ty (Cachu, crap rwtsh, nonsens, ceilliau...blah blah blah)
2. y rhaglen crap siopa sydd ar y sgrin dyddie hyn.
3. y cwis gachu 'na gyda Iestyn Garlick
4. Blingo'r Bwci
5. yn anffodus ma rhaid rhoi Pont Teifi ymhlith y gwaetha'.
ond ma'r rhan fwyaf o'r rhai gwael yma'n raglenni diweddar, gan fod rhywun yn dieddol o roi pethau gwael mas o'u cof.