Goreuon S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Goreuon S4C

Postiogan Siani » Iau 05 Medi 2002 9:57 pm

Mae S4C eisiau gwybod beth yw ein hoff raglenni dros yr ugain mlynedd diwethaf (mae gwobr - teledu digidol - na, sai'n gweithio i S4C!). Sut ych chi'n mynd i bleidleisio? Ro'n i'n trafod hyn gyda phobl yn y gwaith heddiw, ar ol cael fy nghopi o "Sgrin" y bore 'ma. I fi, er ei bod hi wedi ei chynhyrchu mwy nag ugain mlynedd yn ol, does dim modd anwybyddu "Fo a Fe". Mae rhai pobl rwy'n nabod yn galaru ar ol "Heno" - a rhai yn dweud rhwydd hynt iddi. Ymysg fy nghyd-weithwyr roedd "Sgorio" yn boblogaidd (hyd yn oed ymysg y di-Gymraeg), a hefyd "Cefn Gwlad", "C'mon Midffild" a "Sali Mali"! I fi, roedd "Fondue, Rhyw a Deinosors" mor wych - oce, rwy'n un o'r garfan "trideg-rhywbeth", a ro'n i felly yn fwy tebygol o uniaethu a hi nag eraill, ond rwy eisiau gwybod un peth - sut o'n nhw'n gwybod am fy mywyd i? Sut o'n nhw'n gallu darllen fy meddwl i? Rwy'n nabod rhai sy'n ei charu, a rhai sy'n ei chasau - does dim hanner ffordd, sai'n credu. A rwy'n mwynhau'r ail-ddarllediad ar y funud.

Felly, beth amdani. Eich 5 hoff raglen erioed ar S4C?
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Goreuon S4C

Postiogan dafydd » Gwe 06 Medi 2002 12:54 pm

Siani a ddywedodd:Felly, beth amdani. Eich 5 hoff raglen erioed ar S4C?


1. Torri Gwynt
2. Pam Fi Duw?
3. Yr Heliwr
4. Jabas
5. Hafoc

(oce mae hwnna yn dangos mai o 85-95 roeddwn yn gwylio S4C fwyaf)

Y broblem gyda S4C yw fod cannoedd o raglenni wedi cael ei cynhyrchu dros y blynyddoedd a does neb byth yn ein atgoffa ohonynt. Mae'n bosib hefyd fod safon cynhyrchu y rhaglenni cynnar yn isel (oherwydd prinder arian) er fod y syniadau yn llawer gwell na rhai o raglenni heddiw.

Mae gan y BBC archif werthfawr o raglenni safonol sy'n cael ei ail-ddarlledu yn aml heb fynd yn rhy ddiflas. Mae'n debyg fod S4C yn rhy embarasd i ail-ddarlledu rhan fwyaf o'i rhaglenni cynnar heblaw am y rhai mwyaf fel Dinas.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Siani » Llun 09 Medi 2002 6:51 pm

Ti mor iawn, Dafydd. (Ac i brofi hynny, anghofiais i am "Torri Gwynt") Dyna un peth ddaeth yn amlwg pan ddechreuon ni drafod y peth yn fy swyddfa yr wythnos diwethaf, a dechreuodd pawb gynnig rhaglenni doedd neb arall wedi meddwl amdanyn nhw ers ache.

Rwy wedi dysgu cwrs Cyfryngau'r Iaith Gymraeg ers 1994, ac felly mae rhaid i fi wylio o leiaf un bennod o bob raglen sy'n ymddangos. Mae hynny'n effeithio arolwg rhywun a phan rwy'n dod ar draws rhywbeth da rwy'n gwybod hynny'n syth - dyna'r raglenni rwy'n dechrau gwylio ar gyfer fy ngwaith, ond yn dal i wylio ar fy nghyfer i fy hun.

Rwy'n cytuno gyda ti, mae safonau technegol wedi gwella, ond weithiau nid y syniadau. Yn ni'n cynhyrchu pethau gwych - ond ble mae'r adloniant ysgafn? (Rwy'n meddwl am ddrama yn bennaf) Rwy'n siarad o safbwynt fy myfyrwyr (a fi'n hunan hefyd), sy eisiau gwylio pethau Cymraeg, ond mae popeth mor ddwys a difrifol. Yn ol un o 'myfyrwyr i - "pam mae rhywun yn marw ym mhob ffilm/rhaglen Gymraeg?" Mae eisiau'r rhaglenni dwys, ond mae eisiau hwyl hefyd - roedd "Pam fi, Duw" yn bodloni'r angen, a hefyd "Yr Heliwr" - roedd y ffilm wreiddiol yn arloesol yn ei dydd. Rwy'n cofio erthygl yn "Barn" ar y pryd yn ei galw hi "Y ffilm Saesneg yn Gymraeg" - sai'n siwr sut i gymryd hynny.

Rwy'n dal i weithio ar fy mhump uchaf i.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

archif rhaglenni s4c

Postiogan dafydd » Mer 11 Medi 2002 3:38 pm

Dwi newydd feddwl am un rheswm pam (fallle) nad yw S4C wedi ail-ddarlledu llawer - hawlfraint a braint-daliadau. Mae'n bosib fod hi naill ai yn rhy ddrud neu yn rhy gymleth i ail-ddarlledu rhaglenni oherwydd fod rhaid talu ffioedd ond mae'n anodd credu na fyddai S4C wedi rhagweld hynny yn y contractau gwreiddiol.

Mae'r sianel yn mynd trwy gyfnodau lle mae nhw'n llwyddo i greu arlwy eang o raglenni poblogaidd ond yna mae yna rhyw fwystfil yn dod heibio a'i gwthio nhw o'r neilltu fel pe bai y Cymry yn ofn llwyddiant.

Mae yna ddiffyg meddylfryd tymor-hir, yn enwedig o gymharu a sianeli eraill. Ar unrhyw adeg mi ddylai fod S4C yn darlledu un neu ddau rhaglen gwis, un neu ddau ddrama gyfres, un neu ddau rhaglen gomedi, un neu ddau rhaglen ddogfen - a'i rhoi nhw yn yr un slot, gan mai dyna'r ffordd o godi cynulleidfa.

Dwi'n gwybod mai diffyg arian yw'r esgus ond y tristwch yw fod y sianel wedi llwyddo i wneud yr uchod yn y gorffennol ond yn newid tacteg bob 6 mis mewn ymgais ofer i gystadlu a'r sianeli arall..
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Prysor » Iau 12 Medi 2002 4:55 pm

Es i i'r stafall 'Teledu' yma efo'r bwriad o ddeud 'hwre' bod cyfres newydd o Fondue, Rhyw a Deinosors yn dechrau nos Sul. A'r neges cynta welis i oedd neges gan ffan arall o'r rhaglen! Spooky!
Ar fy llw, roedd y rhaglan yma yn ffantastic. Y drama gora mae Sbydyrec wedi ei roi allan erstalwm, os nad erioed. Pob elfen o'r cynhyrchiad yn wych, camera, gola, cyfarwyddo (wrth gwrs, y dewin ei hyn)...ac actorion arbenig o dda. A'r gorau yn dod allan ohonynt oherwydd sgript a plot arbenig. A mae Grug Maria yn disgleirio ynddo. Pwerus iawn. Wirioneddol dda. Mae'n rol sydd wedi dod a'r gorau allan ohonni er mwyn iddi allu arddangos ei doniau (mwy nag un!) lawer gwell na'r Arachnid diawledig o sal 'na. Cynhyrchiad is-safonol. Mae 'Arachnid' a 'Fondue' yn ymyl eu gilydd yn living proof nad oes raid mynd i fyd arallfydol i gael dychymyg creadigol, gwych.
Mae'r gyfres, y tim a'r actorion yn llawn haeddu'r gwobrau gaethant yn yr awards 'na. Swperb.

Pump Uchaf Sbydyrec? Syniad da. Rhaid imi feddwl, ond mi fydd 'Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan' ynddo, garantid! :D

Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Cymrocwl » Mer 18 Medi 2002 3:38 pm

Sam Tân
Amdani
Pam fi Duw? (cyfresi cynnar)
Anturiaethau Math
Fo a Fe

Byddwn i hefyd yn hoffi cynnwys Pobol y Cwm ond y broblem gyda'r rhaglen honno yw nad yw'r safon yn gyson. Weithiau, ceir straeon cryf iawn ond ar adegau eraill, ac yn fwy aml y dyddiau hyn, mae'r rhaglen yn wan ofnadwy. Tyfes i lan ar y cartwnau uchod, ac roedd cyfres gyntaf Pam fi Duw?, fel y llyfr, yn wych. Erbyn i'r gyfres symud ymlaen at gast newydd, roedd y straeon da wedi hen fynd yn fy marn i ac roedd gormod o farwolaethau yn y gyfres ddiwethaf! Roedd Fo a Fe hefyd yn wych, wi'n cofio gwylio hi pan on i'n fach iawn ac roedd yr ailddarllediad y Nadolig diwethaf yn ddoniol iawn. Trueni nad oes llawer (os o gwbl) o raglenni comedi arbennig o dda ar y Sianel erbyn hyn. Mae Amdani hefyd yn gyfres arbennig o afaelgar, yn ogystal â Fondue, Rhyw a Deinorsors. Er nad oes teledu digidol gennyf i gartref, rwy wedi profi S4C Digidol sawl gwaith ond ar wahân i ambell raglen, nid yw'r sianel yn arbennig o dda. Rwy'n sylweddoli taw diffyg arian yw'r brif broblem, ond nid oes angen ailddarlledu cymaint, enghraifft o hyn yw'r gyfres newydd Cariad@Iaith. Dangoswyd hi ar S4C Analog nos Sul ond ddoe, os oedd yr EPG yn gywir, cafodd ei hailddarlledu ddwywaith ar yr un diwrnod! Mae hyn hefyd yn digwydd gyda rhai rhaglenni plant. Gan fod teledu digidol bellach yn opsiwn i gymaint o deuluoedd, credaf y dylai'r BBC gynyddu'r oriau "am ddim" a roddir i S4C o 10 awr yr wythnos i rywbeth fel 15 awr. Byddai ychydig oriau ychwanegol, rhaglenni a fyddai'n cael eu darlledu ar y sianel ddigidol yn unig, yn golygu llai o ailddarllediadau dibwynt. Efallai byddai ehangu'r gwasanaeth newyddion i gynnwys rhaglen amser cinio (a ddarlledid rhai blynyddoedd yn ol) yn ddechrau da. Gan fod BBC Cymru wedi cynyddu'i horiau Saesneg yn sylweddol trwy'r gwasanaeth 2W, dylid gwneud yr un peth i sicrhau mwy o raglenni Cymraeg.
Cymrocwl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 10:59 pm
Lleoliad: Aberystwyth fel arfer, Coed Duon fel arall.

Postiogan Gwestai » Llun 23 Medi 2002 9:21 pm

Rwy wedi penderfynu, o'r diwedd! (Ie, rwy'n gwybod taw fi ddechreuodd y sgwrs 'ma!)

1. Fondue Rhyw a Deinosors (dim cystadleuaeth, O GWBL!)
2. Fo a Fe
3. Pam fi, Duw? (cynnar)
4. Y Stafell Ddirgel (cynhyrchiad diweddaraf)
5. Heliwr

- rwy'n credu ...!
Gwestai
 

Postiogan Siani » Llun 23 Medi 2002 9:25 pm

Sori - fi wnaeth bostio'r neges uchod. Aeth yr "Internet Explorer" lawr tra mod i'n sgrifennu, ac ar ol ail gysylltu anghofiais i fewngofnodi eto cyn postio neges!
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Meinir Thomas » Maw 24 Medi 2002 10:55 pm

1. "Pum Diwrnod o Ryddid" (Sioe wych gyda pishyn a hanner yn serennu!! :winc: )
2. Pobol Y Cwm
3. Ffalabalam (Dyw rhaglenni plant heddi dim hanner cystal!)
4. Jabas (God, roedd gen i grysh ar Owain Gwilym yn ystod cyfnod Jabas!! :lol: )
5. Tydi Bywyd Yn Boen
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Geraint » Llun 30 Medi 2002 4:26 pm

I mi, C'mon Midffild yw'r peth gorau ma s4c di wneud o bell ffordd. Pam na all neb gwenud rhaglen or run safon dyddie hyn? Does ddim rhaid i rhaglenni fod yn arbrofol neu artisitg pob tro. Ma angen rhaglenni fydd yn sticio yn meddyliau pobl am byth, fel ma C'mon Midffild di wenud da fi a llawer rwy'n nabod. Roedd yn rhaglen syml, roedd y hiwmor a'r cymeriadau yn debyg iawn i bobl dwi di cwrdd yn y gogledd (no offence intended!) A faint o weithie da chi di bod yn canu Bryn Coch ar ddiwedd sesh? Clasur. A cymeriadau gwych. Yn gymharol ac Only Fools and Horses. A dim teimlad ma ond rhyw rhaglen arall i gadw'r cyfryngis mewn gwaith. Roedd on amlwg fod pawb yn cael hwyl tra'n ffilmio'r rhaglen.

A diolch i sgorio am fy'n addysgu am pel-droed y cyfandir o oedran cynnar! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron