gan Mr Gasyth » Maw 09 Maw 2004 10:10 am
'Preaching to the converted' ydi rhoi rhaglenni dysgwyr ar S4C, h.y. maent yn apelio at bobl sydd eisioes wedi penderfynnu dysgu Cymraeg neu sydd o leiaf a diddordeb neu ryw fath o 'curiosity' ynghylch yr iath neu fydden nhw ddim yn gwylio S4C i gychwyn.
O ddangos rhaglenni dysgwyr ar BBC, mi wyt ti'n mynd a'r ceffyl at y dwr fel petai, ac yn mynd yn syth i mewn i ystafelloedd byw pobl sydd ddim eto wedi cael eu hysbrydoli i i wylio S4C, ond fase'n mwynhau rhywbeth fel Cariad@Iaith ac ella'n ennyn diddordeb ynddyn nhw.
Yr ateb faswn i'n ddeud ydi rhyw fath o strategaeth traws-sianel, gyda rhaglenni ar y BBC i ddenu diddordeb pobl, a wedyn ryw fath o follow-up ar S4C i ddysgu'r rhai sydd wedi penderfynnu eu bod ishio gwbod/dysgu mwy.
Ma Bwrdd yr Iaith yn hoff iawn o strategaethau, felly be am drio llunio un debyg i hon?