Synnu nad oes yna drafod ar y mater yma eto...
Rhaid i fi gyfadda, dwi'n edrach ymlaen am y gyfres yma. Gall fod yn ddiddorol tu hwnt, diolch i'n ffrind gorau, Sioned Street-Porter. Credaf gall ein ffrind ymddwyn mewn dwy ffordd - unai cario mlaen efo'i chasineb twp a hyll, neu sylwedoli ei bod wedi bod yn gont wirion.
Gobeithiaf yn fawr weld yr ail. A dwi'n edrych ymlaen i weld Ron Unsworth yn bwrw iddi...
Ac i'r rhai sydd a diddordeb, mae yna gyfle i gyfarfod a'r criw i gyd, yn cynnwys ein hannwyl Sioned, yn Stiwdio Barcud C'fon, Mawrth 12fed, 7:30 y.h. - 'Croeso i bawb'