Tudalen 1 o 7

Cariad@Iaith

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2004 1:10 pm
gan Ifan Saer
Synnu nad oes yna drafod ar y mater yma eto...

Rhaid i fi gyfadda, dwi'n edrach ymlaen am y gyfres yma. Gall fod yn ddiddorol tu hwnt, diolch i'n ffrind gorau, Sioned Street-Porter. Credaf gall ein ffrind ymddwyn mewn dwy ffordd - unai cario mlaen efo'i chasineb twp a hyll, neu sylwedoli ei bod wedi bod yn gont wirion.

Gobeithiaf yn fawr weld yr ail. A dwi'n edrych ymlaen i weld Ron Unsworth yn bwrw iddi...

Ac i'r rhai sydd a diddordeb, mae yna gyfle i gyfarfod a'r criw i gyd, yn cynnwys ein hannwyl Sioned, yn Stiwdio Barcud C'fon, Mawrth 12fed, 7:30 y.h. - 'Croeso i bawb'

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2004 5:00 pm
gan Ray Diota
Wel, Mr Saer, dwi'n cytuno da ti! Dishgwl mlan i weld e'n arw iawn. Pryd ma'r diawl yn dechre? Faint ma'n para, fyd?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 10:52 am
gan Rhys
dechre nos wener yma (dwi'n meddwl)

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:12 am
gan benni hyll
Dwi isho gweld Ruth Madoc yn ei gwisg 'Hi-de-Hi' hi trwy'r wythnos.

Ac un o'r cystadleuwyr eraill yn taflu'r c**t Jamie Shaw oddi ar glogwyn rhwyle ym Mhen Llyn.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:23 am
gan mirimawr
Mae amserlen darlledu Cariad@Iaith ar gael yn fama
a holl wybodaeth am y rhaglen ar gael yma.

Edrych ymlaen i gael gweld Mr C.

Mwy o storiau am C@I ar gael yma

Delwedd

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:26 am
gan Bol Cwrw
Cwestiwn twp, heb law am ruth madoc, mr c/ron unsworth(enw iawn?) sioned stryd a tammi grey, pwy ddiawl di'r lleill?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
gan brenin alltud
mirimawr a ddywedodd:Edrych ymlaen i gael gweld Mr C.


Pwy? MC y Shamen?!

Dylse rhaglen sy' bennag yn Saesneg fel hon, yn fy marn i, fod ar un o sianelau Cymreig y BBC, nid S4C. Chi'm yn meddwl?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:30 am
gan benni hyll
brenin alltud a ddywedodd:
mirimawr a ddywedodd:Edrych ymlaen i gael gweld Mr C.


Pwy? MC y Shamen?!

Dylse rhaglen sy' bennag yn Saesneg fel hon, yn fy marn i, fod ar un o sianelau Cymreig y BBC, nid S4C. Chi'm yn meddwl?


Mae'n dibynnu sut mae'n cael ei golygu yndydi?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:45 am
gan DAN JERUS
Brennin Alltud:
Dylse rhaglen sy' bennag yn Saesneg fel hon, yn fy marn i, fod ar un o sianelau Cymreig y BBC, nid S4C. Chi'm yn meddwl?


Dwi'n anghytuno'n llwyr.Mae 'na lot o ddysgwyr yn gwylio S4C a rwy'n credu fod y sianel y gwneud y peth iawn yn cefnogi ac yn dangos diddordeb mewn pobl sy'n dysgu (selebs neu'i beidio) mae o'n dangos fod y sianel yn gefnogol ac a wir ddiddordeb mewn fobl sy'n dysgu Cymraeg.Sy'n fwy na ellir ddweud am ambell Gymro, debyg

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 11:57 am
gan Aran
brenin alltud a ddywedodd:Dylse rhaglen sy' bennag yn Saesneg fel hon, yn fy marn i, fod ar un o sianelau Cymreig y BBC, nid S4C. Chi'm yn meddwl?


cytuno'n llwyr... mae dysgwyr sy'n gwylio S4C yn amlwg yn dysgu'n barod - onid holl bwynt cariad@iaith ydy i ddenu dysgwyr newydd?

hynny yw, pobl sydd ddim wedi dechrau dysgu, felly sydd ddim yn gwylio S4C, felly sy'n debycach o lawer i weld cariad@iaith pe bai'n cael ei darlledu ar sianel Saesneg...