Tudalen 2 o 7

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 12:15 pm
gan DAN JERUS
Ond pam ddylai ennyn diddordeb rhywun yn yr iaith Gymraeg gael ei gyfyngu i sianel arbennig/priodol? drwy ddangos y rhaglen hon mae s4c yn dangos ac yn cydnabod dysgwyr Cymraeg.Heb raglen or fath, be sgenno ni i'r pobl hyn ar y sianel ar wahan i isdeitlau? a phwy sydd i ddweud na fyddai rhaglen o'r fath yn ennyn diddordeb i ddysgu'r iaith or newydd?. Ddylai'r pobl 'ma sydd yn symud mewn i ardaloedd Cymreig ac yn dilyn "cyfarwyddiadau" cymuned i ddysgu'r iaith ac i ymuno ym mywyd yr ardal fod, o ran tegwch, yn ran o weledigaeth Cymru felly-sy'n cynnwys y cyfle i gael gweld yr her a'r hwyl o ddysgu'r iaith ar sianel Gymraeg y genedl.Ta da chi'n awgrymu rhoi'r rhaglen yn hen slot Just Up Your Street?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 12:50 pm
gan mirimawr
brenin alltud a ddywedodd:
mirimawr a ddywedodd:Edrych ymlaen i gael gweld Mr C.


Pwy? MC y Shamen?!



Bernard Latham - Gordon 'Mr. C' Cunningham o Hollyoaks.

Be da chi neud ar fore dydd Sul ar ol bod yn capal???

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:20 pm
gan Dwlwen
Yn wir. Does 'na ddim compliment gwell i Bregeth Bore Sul na phaned a dose o Hollyoaks!:winc:

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:22 pm
gan brenin alltud
ond do's da nhw ddim hawl i ddwyn enw'r boi nath rapio ar 'ebeneezer goode'... :winc:


dan jerrrus a ddywedodd:Ta da chi'n awgrymu rhoi'r rhaglen yn hen slot Just Up Your Street?


Ydw, rili. Mae 'na, faint, tair neu bedair sianel y gellid ei defnyddio ar gyfer rhaglenni fel hyn fydde'n annog pobol i deimlo'n OK i drafod yr iaith a'i dysgu. Mae plant Cymru'n gorfod ei dysgu'n yr ysgol, ond dyw sianeli eu rhieni fel BBC Wales neu BBC 2W ddim yn mentro son am yr iaith, a'r anawsterau a'r rhwystredigaethau mae eu rhieni'n eu cael a'u hamynedd wrth ddysgu gyda'u plant ayb, ac mi fasa'n neud lot mwy o les. Os taw gwlad ddwyieithog y'n ni, pam taw S4C sy'n gorfod bod yn 'ddwyieithog' drwy'r amser?

Faswn i ddim yn meindio rhaglen ar S4C fyddai'n ymwneud â'r iaith o safbwynt ei siaradwyr; hynny yw, annog y Cymry i siarad rhagor o Gymraeg â dysgwyr, sut mae pobol yn ymddwyn pan fo dysgwyr neu rai di-Gymraeg yn eu plith, y gwaith da mae pobol yn ei wneud yn wirfoddol a phroffesiynol ledled Cymru (gwahaniaethu'n fawr o un lle i'r llall) gyda dysgwyr yn eu hardaloedd neu drefi, sgwrsio â Mentrau Iaith ayyb.

Ond dw i'n amau a yw gwylio pobol yn cael gwersi, gyda throslais Saesneg o'r blaen, yn deledu da i Sianel Gymraeg ei hiaith.

Does dim dowt bod Nia Parry'n gwneud job wych, ac mi fasa hi'n dda iawn ar BBC Wales hefyd, ac yn biti mawr ei cholli o S4C. Ond mae hwn fel petai'n ymdrech i boblogeiddio (a Sesnigeiddio falle) S4C, yn hytrach na rhoi chyrraedd y bobol sy' angen eu cyrraedd, a gwneud y Gymraeg yn beth normal, bob dydd.

Gofyn y cwestiwn o'n i, nid rhoi 'cyfarwyddiadau', gyda llaw. Sori, gaea i 'mhen i nawr.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:29 pm
gan Ray Diota
Ceilliau. Jest achos bod gan y rhaglen apêl gyffredin h.y Saeson, Cymry di-gymraeg, Cymry Cymraeg... dyw hynny ddim yn golygu y dyle fe fod ar y BBC. Rhaglen arloesol am ddysgu Cymraeg a chi'n cwyno i fod e ar S4C. Caewch eich cege myn diawl i. :x

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:33 pm
gan DAN JERUS
Deall dy bwynt a diddorol fyddai darganfod pam mai ddim ond s4c sy'n fodlon chwarae'r cerdyn ddwy-ieithol.Cyfraniad mwyaf BBC Cymru i'r Gymraeg (ar wahan i chwaraeon) yw Pobl y Cwm, sydd mewn gwirionedd yn gymaint o adlewyrchiad o Gymru fodern ac y mae Scunthorpe.Valleys-vision yw'r BBC yng Nghymru (sydd ddim yn beth hollo ddrwg yn y bon gan eu bod yn cael eu talu i wasanaethu Gymru gyfan) ond eu bod yn tueddu i batraneiddio eu cynulleidfa.I fod yn onest dowt gen i sa BBC Wales wedi meddwl am syniad fatha cariad at iaith os na fysa Sara edwards/trevor fishlock yn cyflwyno, dwi jyst yn cael y teimlad fod s4c i weld o leiaf y rhoddi mwy o chwarae teg i ddysgwyr.Falla bo fi'n rong ddo :?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 1:57 pm
gan Aran
mae'n gamgymeriad (ac yn taro rhai dysgwyr fel yn nawddoglyd, er dw i'n siwr nid dyna ydy'r bwriad gan amlaf) i feddwl bod angen rhaglenni am ddsygu Cymraeg i ddysgwyr cael teimlo'n 'rhan' o ddarpariaeth S4C. deud y gwir, ar ôl hyn a hyn o ddysgu, peth olaf bod y rhan helaeth o ddysgwyr isio ydy blydi dôs arall o 'sut mae dysgu, pam wnest ti ddysgu, pam ydy pobl eraill yn dysgu' ayyb ayyb.

a peidwch â dechrau sôn am is-deitlau, teclyn y diawl (ond bod modd diffodd y bastad pethe) i gadw ni rhag ymarfer gwrando...

yn y pen draw, mae dysgwyr yn debyg iawn i fod isio gweld S4C yn darparu rhaglenni Cymraeg yn anad dim - os oes rhaid am raglenni am ddysgu, gadewch iddyn nhw fod yn fwy Cymraeg eu naws... mae cariad@iaith yn rhaglen da iawn, ond os ydy'r amcan i ddenu mwy o bobl i ddysgu, mae'n rhaid cael y peth ar sianeli bod y di-Gymraeg yn gwylio!

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:44 pm
gan Ray Diota
'D yw S4C ddim yn gallu fforddio llenwi'r sianel â rhaglenni ffres yn y Gymraeg. Ond fan hyn ma da ni raglen AM yr iaith Gymraeg sy'n weddol rhad i'w wneud, sy'n llenwi lot o amser ac sydd o ddiddordeb i bob math o bobl. Dwi'n meddwl bod hi'n eitha naif i ddweud ma rhaglen i ddysgwyr yw hon yn y lle cynta - ma nhw'n amlwg wedi dewis cyfranogwyr sydd ag apêl gyffredin iawn: y boi 1true voice = merched sy'n hoffi pop a reality TV. Mr C = ffans operau sebon a Pobl y Cwm yn arbennig (siaradwyr Cymraeg) ac yn bennaf oll Sioned Stryd Porthor = Cymry Cymraeg fydd yn ei gwylio hi i weld ei hagwedd/ymdrech. Felly, ma hon yn raglen i Gymru gyfan, a sdim dwywaith da fi ma hon fydd y rhaglen ore ar $4C leni. Biwt.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:52 pm
gan Dias
Ray Diota a ddywedodd: , a sdim dwywaith da fi ma hon fydd y rhaglen ore ar $4C leni. Biwt.


Newydd rhoi'r kiss of death i'r rhaglen Ray... :(

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:56 pm
gan Ray Diota
do, mwn! :P