DAN JERUS a ddywedodd: ... dwi jyst yn cael y teimlad fod s4c
i weld o leiaf y rhoddi mwy o chwarae teg i ddysgwyr.Falla bo fi'n rong ddo
Na - wyt ti'n iawn. Maen nhw. Mae gan BBC Wales ofn ynganu enwau fel Llanwern a'r Borth yn gywir ar y newyddion, rhag pechu, hyd yn oed. Dydyn nhw ddim am dynnu sylw at y ffaith bod 'na filoedd o bobol yn y Cymoedd a de Cymru yn ymdrechu rywfaint รข'r iaith bob dydd, ac yn meddu ar dipyn bach ohoni, ac yn teimlo'n ddigalon nad ydyn nhw wedi'i dysgu'n naturiol. Mae eisie Cymreigio Cymru weithie hefyd.
Un peth da ddeith o'r rhaglen gobeithio yw y bydd hi mor slic (gan mai Fflic sy'n cynhyrchu
) y bydd bosus llywath y sianeli Saesneg yn gweld ei bod hi'n syniad da, ac yn sylweddoli y gall y Gymraeg fod yn 'commodity' i dynnu'r pyntars yn y broydd di-Gymraeg. Mae angen ei thrafod yn 'genedlaethol' - ond gall hynny fod ar sianel Saesneg.
Sa fe'n braf ar y naw cael rhaglen 'realiti' gwirion yn Nant Gwrtheyrn gyda'n 'selebs' ni'n hunen yn dysgu iaith dramor yn lle! Meddyliwch am y dewis sy' 'da ni - Mici Plwm, Robin Llyn, Bethan Gwanas, Llyr Ifans, Bryn T.. o na, ym Tara Bethan, MC Saizmundo, Gwenno Saunders .... pam lai?
Dim ond un sianel fach Gymraeg sy' 'da ni yn yr iaith da ni'n byw ynddi, yn bwyta ynddi, yn breuddwydio ynddi, a llymru sy' eto ar y fwydlen.
Reit, taw piau hi.