Tudalen 3 o 7

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:56 pm
gan Garnet Bowen
Mewn gwirionedd, toes gan BBC Wales ddim mymrun o ddiddordeb yn hybu yr iaith Gymraeg, a fysa nhw byth bythoedd yn comisynnu rhaglen o'r fath. A beth bynnag, mae rhaglenni i ddysgwyr wedi bod yn rhan o arlwy S4C ers blynyddoedd maith, erbyn hyn.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:57 pm
gan garynysmon
Wel, i fod yn deg, mi ddaru nhw gomisiynu y gyfres (ddim yn cofio'i enw rwan) am hanes yr iaith Gymraeg yndo?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:58 pm
gan Dias
history of welsh + wedi comisiynu cyfres ar Hanes Cymru wedi'r 2il ryfel byd - y ddau yn cael eu dangos ar BBC4 hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 4:59 pm
gan Ray Diota
Sdim disgwyl i BBC Wales hybu'r iaith - dyna yw diben S4C, blaenoriaeth BBC Wales fel 'sianel' ddyle fod cynhyrch rhagleni 'cymreig' yn saesneg - enwch ddrama Gymreig dda yn Saesneg. Sialens - Nuts and Ffycin Bolts!?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 5:03 pm
gan DAN JERUS
Yn union Garnet, mae S4c yma'n cydnabod pwysigrwydd dysgwyr yma.Ddim yn siwr os dwi'n cytuno hefo'r ddadl 'ma na'mond y dysgwyr hynny sydd fynnu i spid ar yr iaith ddylai gael arlwyaeth ar y sianel.Mae mewnfudwyr sydd newydd symud ac yn cael cyflwyniad i'r sianel am y tro cyntaf yn mynd i weld mor o gefnogaeth i'w helpu i ddysgu drwy raglenni or fath.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 5:22 pm
gan Aran
DAN JERUS a ddywedodd:Ddim yn siwr os dwi'n cytuno hefo'r ddadl 'ma na'mond y dysgwyr hynny sydd fynnu i spid ar yr iaith ddylai gael arlwyaeth ar y sianel.


mae dysgwyr o unrhyw lefel yn dysgu mwy trwy wrando ar y Gymraeg yn lle na'r Saesneg, felly dw i ddim yn meddwl bod yna ddadl wedi bod yn erbyn dysgwyr cymharol newydd.

os ydy pwynt cariad@iaith i gynnig adloniant i Gymry Cymraeg, digon teg - ond mae popeth mod i wedi darllen amdani'n awgrymu'n gryf bod pwrpas y rhaglen ydy i ddenu mwy o bobl i ddysgu.

pregethu i'r argyhoeddiedig y maen nhw felly ar S4C... felly mae pwynt cychwynnol y brenin alltud yn dal i wneud synnwyr i mi.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 5:39 pm
gan DAN JERUS
Aran:
mae dysgwyr o unrhyw lefel yn dysgu mwy trwy wrando ar y Gymraeg yn lle na'r Saesneg, felly dw i ddim yn meddwl bod yna ddadl wedi bod yn erbyn dysgwyr cymharol newydd.


Ond dadl Brenin oedd y dylid symyd y rhaglen i'r BBC ac oddi ar s4c

Brenin Alltud:
Dylse rhaglen sy' bennag yn Saesneg fel hon, yn fy marn i, fod ar un o sianelau Cymreig y BBC, nid S4C. Chi'm yn meddwl?


Sydd yn mynd yn erbyn dy bwynt di oherwydd fel mae pethau, ar wahan i s4c, p'le arall mae nhw'n mynd i glywed yr iaith?

Ydi, mae'n siwr y bydd rhai Cymry cymraeg yn gwylio (janet street-walker bownd o fod yn atyniad :winc: ) ond os ti'n meddwl am y peth, mae'r gyfres yn gyflwyniad gwych i unrhyw ddysgwr oherwydd y syniad yw eu bod yn cychwy or cychwyn.Ew, ers cychwyn darllen hwn dw'i bron a dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar s4c i ennyn diddordeb yn yr iaith drwy ragleni or fath, i fobl sy'n dod i Gymru ac yn fodlon dysgu ac intergreiddio.Ok, falla gei di fobl sy'n mynd i fod yn pissed off hefo'r peth am fod y rhan fwyaf ohono'n saesneg, ond dwi'n fodlon betio na lot o rheini sy'n mynd ymlaen i gwyno nad yw'r mewnfudwyr yn gwneud dim ymgais i ddysgu'r iaith.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 5:49 pm
gan Daiablo
Yn peth fydda i yn hoffi i weld fod cyfraith yn mynnu bod pawb yn cael gwersi Cymraeg os ma nhw am ddod i fyw yng Nghymru ac i bawb sy yma yn barod.

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2004 7:30 pm
gan brenin alltud
DAN JERUS a ddywedodd: ... dwi jyst yn cael y teimlad fod s4c i weld o leiaf y rhoddi mwy o chwarae teg i ddysgwyr.Falla bo fi'n rong ddo :?


Na - wyt ti'n iawn. Maen nhw. Mae gan BBC Wales ofn ynganu enwau fel Llanwern a'r Borth yn gywir ar y newyddion, rhag pechu, hyd yn oed. Dydyn nhw ddim am dynnu sylw at y ffaith bod 'na filoedd o bobol yn y Cymoedd a de Cymru yn ymdrechu rywfaint รข'r iaith bob dydd, ac yn meddu ar dipyn bach ohoni, ac yn teimlo'n ddigalon nad ydyn nhw wedi'i dysgu'n naturiol. Mae eisie Cymreigio Cymru weithie hefyd.

Un peth da ddeith o'r rhaglen gobeithio yw y bydd hi mor slic (gan mai Fflic sy'n cynhyrchu :winc: ) y bydd bosus llywath y sianeli Saesneg yn gweld ei bod hi'n syniad da, ac yn sylweddoli y gall y Gymraeg fod yn 'commodity' i dynnu'r pyntars yn y broydd di-Gymraeg. Mae angen ei thrafod yn 'genedlaethol' - ond gall hynny fod ar sianel Saesneg.

Sa fe'n braf ar y naw cael rhaglen 'realiti' gwirion yn Nant Gwrtheyrn gyda'n 'selebs' ni'n hunen yn dysgu iaith dramor yn lle! Meddyliwch am y dewis sy' 'da ni - Mici Plwm, Robin Llyn, Bethan Gwanas, Llyr Ifans, Bryn T.. o na, ym Tara Bethan, MC Saizmundo, Gwenno Saunders .... pam lai?

Dim ond un sianel fach Gymraeg sy' 'da ni yn yr iaith da ni'n byw ynddi, yn bwyta ynddi, yn breuddwydio ynddi, a llymru sy' eto ar y fwydlen.

Reit, taw piau hi.

PostioPostiwyd: Iau 04 Maw 2004 2:19 pm
gan Ray Diota
Be fydde pwrpas hyna, gweda - hybu pobl i ddysgu Almaeneg? Ti'n siarad drwy dy dintws! Du sprichst mit die arsch...ne rwbeth! :winc: