Tudalen 4 o 7

PostioPostiwyd: Iau 04 Maw 2004 6:23 pm
gan brenin alltud
Pam hybu bygyr ol? Dw i eisio fy entyrtenio, fel dw i'n ei gael (gan bo fi'n ddwyieithog) ar BBC 1, BBC 2, BBC 1 Wales... be' mae Big Brother yn ei hybu? casineb@bobol?

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 10:51 pm
gan Mali
Wedi bod yn bry ar y wal bore 'ma yn Nant Gwrtheyrn , wrthi'n gwylio y rhaglen Cariad@Iaith drwy gyfrwng gwe gamera a 'media player. ' Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydi bwys i mi ar ba sianel y dylid fod wedi dangos y rhaglen . Dwi'n meddwl y peth pwysig ydi fod y rhaglen wedi cymeryd lle o gwbwl. Mae'n gam positif oleiaf , ac mi 'roedd Sioned Stryd Porthor, Ruth Madoc a'r criw i'w gweld yn mwynhau'r profiad.
Be wnân nhw efo'i Cymraeg ar ôl yr wythnos yma yn gwestiwn arall. Efallai , y dylai S4C gael rhyw fath o ddilyniant i'r rhaglen?

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 12:33 am
gan Meg
Mi fysech chi'n synnu faint o bobl di-Gymraeg a Chymru Cymraeg sydd byth bron yn siarad yr iaith, sy'n gwylio S4C - os ydi'r rhaglen yn un dda. Ac mae hon yn glincar. Mae'r gymysgedd o bobl sy yno'n grêt - a janet Street Porter yn blydi hileriys.
Ac oes, mae 'na lot o Saesneg ynddi, ond mi fyddai'n uffernol o anodd i'r criw allu deud sut maen nhw'n teimlo am y profiad ayyb ar ôl dim ond ychydig ddyddiau'n unig yn bysa?
Mae S4C wedi cael gafael ar rwbath gwirioneddol ddifyr yn famma.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 12:47 am
gan Mali
Ia , felly roeddwn innau'n deimlo hefyd Meg. Dwi ddim yn meddwl i mi weld rhaglen debyg iddi o'r blaen. Mae'n help wrth gwrs cael cymeriadau enwog i gymeryd rhan yn y fenter, ac mae hyn wrth gwrs yn ein denu ni i wylio.
Yn gobeithio medru gweld gweddill y gyfres yn fyw ar y media player. Mi gefais ychydig o drafferth i fynd drwodd heddiw ,ond llwyddo yn y diwedd!

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 9:29 am
gan Chwadan
Dros y we oedda ti'n sbio ar y rhaglen Mali? Drwy ba wefan?

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 9:34 am
gan Leusa
'Dw i'n meddwl fod y gwegamera ar wefan S4C. Welsoch chi JSP neithiwr? Son am an-serchog - sai'n gallu troi suro ysgytlaeth efo'i gwep.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 9:59 am
gan Cwlcymro
Os osna riwyn wedi bod yn gwylio'r gwegamra ar yr adag iawn mi fysa chi di gweld rhen Janet Street-Fuckwit yn rhoid clec go iawn i Jamie Shaw!

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:10 am
gan Mr Gasyth
'Preaching to the converted' ydi rhoi rhaglenni dysgwyr ar S4C, h.y. maent yn apelio at bobl sydd eisioes wedi penderfynnu dysgu Cymraeg neu sydd o leiaf a diddordeb neu ryw fath o 'curiosity' ynghylch yr iath neu fydden nhw ddim yn gwylio S4C i gychwyn.
O ddangos rhaglenni dysgwyr ar BBC, mi wyt ti'n mynd a'r ceffyl at y dwr fel petai, ac yn mynd yn syth i mewn i ystafelloedd byw pobl sydd ddim eto wedi cael eu hysbrydoli i i wylio S4C, ond fase'n mwynhau rhywbeth fel Cariad@Iaith ac ella'n ennyn diddordeb ynddyn nhw.
Yr ateb faswn i'n ddeud ydi rhyw fath o strategaeth traws-sianel, gyda rhaglenni ar y BBC i ddenu diddordeb pobl, a wedyn ryw fath o follow-up ar S4C i ddysgu'r rhai sydd wedi penderfynnu eu bod ishio gwbod/dysgu mwy.
Ma Bwrdd yr Iaith yn hoff iawn o strategaethau, felly be am drio llunio un debyg i hon?

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 11:42 am
gan Geraint
Nia Parry yw'r fenyw mwya brwdfrydig. erioed.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 3:16 pm
gan brenin alltud
A maen dweud yn Nail y Post heddi bod janet street-prosser ddim yn hoff o Nia Ni gan bod hi'n gwenu ormod. Esu, mae da'r fenyw na cheek...

Fi'n dal yn meddwl bod hi'n boenus o anodd watsio'r rhaglen ar S4C. Sori.