Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 3:51 pm
gan Mr Gasyth
Glywsoch chi JSP yn cwyno nad oedd unrhyw bwynt dysgu iddi ofyn am de neu goffi gan mai dim ond esspressos ma hi'n yfed yn llunden!?

hen bitch wirion

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 4:01 pm
gan Ifan Saer
Aled a ddywedodd:Glywsoch chi JSP yn cwyno nad oedd unrhyw bwynt dysgu iddi ofyn am de neu goffi gan mai dim ond esspressos ma hi'n yfed yn llunden!?

hen bitch wirion


Hanner disgwyl iddi ddecra' cwyno sut nad oedd gan ein iaith eiriau 'saesneg' gwych fel espresso... :rolio:

G'loman....jolpan....ayyb. C'laen Sioned, profa ni'n anghywir! Dwi'n disgwyl troedigaeth. Byw mewn gobaith 'de.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 4:25 pm
gan Mali
Chwadan a ddywedodd:Dros y we oedda ti'n sbio ar y rhaglen Mali? Drwy ba wefan?


Helo Chwadan!
Cael hyd i'r wefan yma wnês i , wrth chwilota am rywbeth arall.

http://www.s4c.co.uk/

Gwefan S4C Rhyngweithiol ydio. Mae'r llun yn eithaf clir drwy'r media player, ond weithiau mae'r camerau yn y ffordd!!
Hwyl,
Mali.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 4:28 pm
gan Mali
Leusa a ddywedodd:'Dw i'n meddwl fod y gwegamera ar wefan S4C. Welsoch chi JSP neithiwr? Son am an-serchog - sai'n gallu troi suro ysgytlaeth efo'i gwep.
:lol:

Sori Leusa. Ddim wedi sylweddoli dy fod wedi rhoi linc i'r wefan yn barod.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:51 pm
gan Mali
'Roedd gib go iawn gan JSP heno 'ma. Pam nad oedd hi'n cymeryd nodiadau fel gweddill y grwp?
A+ i Ruth Madoc am ei hymdrech! :)

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 11:12 pm
gan dafydd
Janet yn dweud '"Tara wan!" o hyd, ydi'r peth doniolaf dwi wedi gweld ar s4c ers peth amser..

PostioPostiwyd: Mer 10 Maw 2004 5:23 am
gan Mali
dafydd a ddywedodd:Janet yn dweud '"Tara wan!" o hyd, ydi'r peth doniolaf dwi wedi gweld ar s4c ers peth amser..


Hefyd pan ddaru hi ddisgrifio lliw ei gwallt hi fel "lliw coch, o botel". :lol:

PostioPostiwyd: Mer 10 Maw 2004 4:35 pm
gan nicdafis
dafydd a ddywedodd:Janet yn dweud '"Tara wan!" o hyd, ydi'r peth doniolaf dwi wedi gweld ar s4c ers peth amser..


Pwy fydd yr act cyntaf yn y SRG i ddefnyddio sampl o hwnna? Dewch ymlaen bois...

Steffan Ryfedd...

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 12:35 pm
gan ffwrchamotobeics
Ar nodyn arall...nid 'chest infection' oedd gan Steve Strange; gath e'i ddal yn dwyn potel wisgi o'r bar a'n snortio lein o chaz.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 8:17 pm
gan Mali
Wedi colli rhaglen ddoe, ac oherwydd y tywydd garw heddiw, tydi'r rhaglen ddim i'w gael ar y we. :(
Pam fod JSP yn cael diwrnod i ffwrdd? Ydi hi wedi cael digon?

Gyda llaw Nic, be ydi SRG? :?