Mae hwn ymlaen yn UGC Caerdydd y penwythnos hon. Pedair ffilm Ffrengig ymlaen yr un penwythnos. Dim hyd yn oed digon o amser i strocio barf a mynd "hmmm" rhwng gwylio nhw!
Wedi gweld dau ddoe, "Etre et avoir" oedd yn wir godi calon rhywun. Doc am flwyddyn mewn dosbarth o blant 4-10 oed a'u hathro gwych yn ardal wledig Auvergne yn Ffrainc. Ma'r camera ar lefel desgia'r plant ac yn dod ag atgofion yn llifo nol. Mae'n reit poignant ar adegau ond dwi'n gofyn i unrhyw un os allan nhw ddod allan o'r sinema heb wen fawr ar eu gwyneba.
Yr ail oedd "L'Homme du Train" gan Patrice Leconte ac yn stario yr enwog(yn Ffrainc!) Johnny Hallyday. Mae hon yn son am gyfarfod sianws rhwng hen ddyn sydd wedi cael digon o'i fywyd ara deg a lleidr banciau(shwrli nid rhain yw'r geiria iawn!) sy'n dechra laru efo'i fywyd cyflym. Mae hi'n ffilm ara ond mae hi'n talu am hyn, gyda llawer o sgwrsio diddorol am farddoniaeth, rhyw a bywyd fel ma Ffrancwyr yn dueddol o neud a heb fynd yn rhy felodramatig. Mae sinematograffi yn dda iawn yn hon hefyd, llawer o raen ar y llun a symudiadau camera dyfeisgar. Da iawn.
Cerwch i'w gweld nhw cyn iddyn nhw fynd. Os da chi'n Kerdiff be bynnag de. Sori bobols erill y Maes sydd ddim digon ffodus i gael y pleser wythnosol o UGC. UGC am byth!