Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
Cytuno'n llwyr efo Rhodri Nwdls. Mae operau sebon yn afiechyd. Llyncu pres allai gael ei ddefnyddio'n llawer callach yn rhywle arall. Troi pobl yn zombies heb fywydau eu hunain/sgwrs gall. Cladder PYC - a phob sebon arall o'm rhan i.
Mae hyn yn rhoi syniad i mi, beth am plot nesaf PYC gynnwys labordy cudd sy'n ddamweiniol yn rhyddhau feirws sy'n troi pobl mewn i zombies. Bob wythnos bydd 'seren' arall yn cael ei fwyta gan zombies. Bydde pawb yn tiwnio mewn i weld pa 'seren' sydd nesaf.
Wrth mae'n fantais fod Reg wedi mynd am bydd y flwyddyn a hanner gynta op'r sioe wedi ei ail-wampio braidd yn ddiflas wrth i'r zombies barhau gyda dycnwch a dyfalbarhad i fwyta Huge Ceredig!
Meinir Thomas a ddywedodd:Wel 'sdim ots 'da fi beth ma' neb yn dweud, 'wi'n dwli ar "Pobol Y Cwm". Petawn i ond yn cael gwylio un rhaglen am weddill fy mywyd, Pobs fuasai hwnnw. Ond un peth 'wi ddim yn lico yw'r newid amser 'ma. Sticwch at 7 o'r gloch, bois bach!
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai