Ffilm dda iawn sy'n edrych yn dda hefyd. Peidiwch a mynd i'w gweld os da chi'n flinedig ddo, mae hi'n symud yn reit araf ond mae'n rhoi amser i chi feddwl am yr hyn sy'n mynd ymlaen a'r broblem emosiynol a seicolegol sydd yn ei chanol.
Dwi heb weld y wreiddiol ond clywad ei bod hi'n dair awr o hyd, mae hon yn awr a hanner sy'n jest reit. George Clooney yn profi eto ei fod yn actor ffilm gwych sy'n gallu addasu i lawer rhan wahanol yn hawdd iawn. Mae Natascha Macelhone (The Truman Show)yn brydferth iawn ynddo hefyd a chyda cymaint o close-ups hir mae rhywun yn cael amser i edrych ar bob ongl o'i gwyneb diddorol hi. Un ffactor arall sy'n ei gwneud yn ffilm dda yw'r gerddoriaeth, mae'n creu'r mood perffaith trwy'r holl ffilm efo swn Gamelan hudolus.
Gwerth ei gweld os da chi isio sci-fi meddylgar sydd ddim yn llawn trais ac action am newid. Mwy 2001 na Mission To Mars. Gwd thing!