Jean de Florette ac 8 1/2

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Jean de Florette ac 8 1/2

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 18 Maw 2003 7:26 pm

Os da chi heb ei gwled hi, rentiwch hi. Ffilm drist am wenwyn eiddigedd a chenfigen, ond hefyd am ddiniweidrwydd a phleser syml bywyd y tir. Mae'r golygfeydd o Provence yn hyfryd a'r stori'n un syml ond yn afaelgar. Methu witsiad i weld Manon des Sources rwan.

Welis i Fellini's 8 1/2 hefyd ddoe (newydd ymuno a'r llyfrgell felly gallai ddal fyny efo'r holl ffilms tramor dwi di bod isio'u gweld! Am ddarganfyddiad!) bach yn nyts, ddim yn credu fod hi mor self indulgent a be ma pobol yn deud (cyhuddir y ffilm o fod yn wanc-ffilm i stiwdants MA ffilm ac o fod ar fai am eu ymdrecvhion Avant Garde sydd wastad yn shit) ond ma'r diweddglo yn annealladwy, i fod fel'na dwi'n siwr ond oes rhywun yn gallu esbonio fo?

Mae rhai o'r golygfeydd ynddo yn rhai o'r rhai mwyaf dyfeisgar a thrawiadwy dwi rioed di gweld, dim rhyfadd fod o wedi cael ei gopio gymaint, mae na gyswllt amlwg i waith Gilliam a Woody Allen yno. Nes i fwynhau la Dolce Vita yn fwy ddo, Mastroianni yn smooth y diawl yn y ddau. Rel Eidalwr 60'au! Dwisio par o sbecs haul fel rhai fo!

Mae Europa gan Lars von Trier a Tetsuo: Iron Man yn nesaf ar y rhestr...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Maw 18 Maw 2003 11:28 pm

Mae Tetsuo yn gwbl wallgo. Pob lwc.

Erioed wedi gweld 8 1/2, ond y pethau dw i wedi gweld gan Fellini yn arbennig. Paid poeni am yr inverted snobbery sy'n dweud unrhywbeth sy ddim yn gallu cael ei esbonio mewn brawddeg o eiriau unsill yn "pretentious".

Pa lyfrgell wyt ti'n sôn amdani, Caerdydd? Dw i wedi gweld pob DVD a fideo da yn ein llyfrgell ni (Aberteifi).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Iau 20 Maw 2003 6:22 pm

Dwi di gweld Jean de Florette a Manon des Sources. Ffilmiau ardderchog. Gwelais nhw ar FilmFour world pan gychwynodd y sianel.

Manon des Sources mymryn bach yn well na Jean de Florette, yn fy marn.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 20 Maw 2003 7:46 pm

Pa lyfrgell wyt ti'n sôn amdani, Caerdydd?


Ie, mae na ddetholiad gwych yno o ffilmiau tramor, heb gael llawer o gyfle i edrych ar y gweddill eto, ond mae na lwyth yno. Happy Days!

Manon des Sources mymryn bach yn well na Jean de Florette, yn fy marn.


Ardderchog, rwbeth arall i edrych ymlaen ato. Emmanuelle Beart hefyd, iym iym! Ddim penwythnos yma ddo, mynd fyny Gog i ddringo Cader Idris yn yr haul. Un o'r golygfeydd gora gei di yng Nghymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron