Os da chi heb ei gwled hi, rentiwch hi. Ffilm drist am wenwyn eiddigedd a chenfigen, ond hefyd am ddiniweidrwydd a phleser syml bywyd y tir. Mae'r golygfeydd o Provence yn hyfryd a'r stori'n un syml ond yn afaelgar. Methu witsiad i weld Manon des Sources rwan.
Welis i Fellini's 8 1/2 hefyd ddoe (newydd ymuno a'r llyfrgell felly gallai ddal fyny efo'r holl ffilms tramor dwi di bod isio'u gweld! Am ddarganfyddiad!) bach yn nyts, ddim yn credu fod hi mor self indulgent a be ma pobol yn deud (cyhuddir y ffilm o fod yn wanc-ffilm i stiwdants MA ffilm ac o fod ar fai am eu ymdrecvhion Avant Garde sydd wastad yn shit) ond ma'r diweddglo yn annealladwy, i fod fel'na dwi'n siwr ond oes rhywun yn gallu esbonio fo?
Mae rhai o'r golygfeydd ynddo yn rhai o'r rhai mwyaf dyfeisgar a thrawiadwy dwi rioed di gweld, dim rhyfadd fod o wedi cael ei gopio gymaint, mae na gyswllt amlwg i waith Gilliam a Woody Allen yno. Nes i fwynhau la Dolce Vita yn fwy ddo, Mastroianni yn smooth y diawl yn y ddau. Rel Eidalwr 60'au! Dwisio par o sbecs haul fel rhai fo!
Mae Europa gan Lars von Trier a Tetsuo: Iron Man yn nesaf ar y rhestr...