Tudalen 1 o 1

Bob a'i Fam

PostioPostiwyd: Maw 24 Medi 2002 2:25 pm
gan Di-Angen
A welodd unrhywun Bob a'i Fam ar nos Iau? Beth oeddech yn ei feddwl?

Roeddwn yn credu bod Bob ei hun yn tueddio i or-actio mewn rhai mannau, ond dim complaints mawr. Llawer gwell na'r mwyafrif o rhaglenni sy'n pasio am "gomedi" ar s4c.

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 12:47 am
gan Siani
Welais i ddim y rhaglen - roedd y "trailers" yn ddigon i roi fi off. Roedd yr holl beth yn edrych i fi fel y rhaglenni comedi arferol yn Gymraeg - wedi eu gor-sgrifennu a gor-actio - yr holl beth dros ben llestri. Ond rwy'n fodlon rhoi cynnig arni yr wythnos nesa os yw'n welliant ar y rhaglenni comedi arferol. Pam yn ni mor ofnadwy yn cynhyrchu comedi sefyllfa?

PostioPostiwyd: Iau 26 Medi 2002 7:48 am
gan Ooo
Dwi'n syrthio mewn cariad a Lowri...

PostioPostiwyd: Sul 29 Medi 2002 8:59 am
gan Alys
Dwi'n cytuno efo Siani, mae'r trailers yn dweud digon.
Dwi'n cytuno ynlgyn â Chymru a chomediau ar y teledu (efo rhai eithriadau dwi'n siwr, ond methu meddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd!), be ti'n meddwl ydi'r achos?
Byddai'n braf cael symud Royston Vasey i Gymru, ie, dan ni'n dathlu yn ty ni, mae cyfres newydd League of Gentlemen newydd ddechrau ... Chewch chi byth adael.

PostioPostiwyd: Sul 29 Medi 2002 4:48 pm
gan dafydd
Alys a ddywedodd:Byddai'n braf cael symud Royston Vasey i Gymru, ie, dan ni'n dathlu yn ty ni, mae cyfres newydd League of Gentlemen newydd ddechrau ... Chewch chi byth adael.


Un o broblemau mawr Cymru yw nad oes lle i feithrin talent. Mae bron bob comedi llwyddiannus ar y teledu yn saesneg wedi dod o'r un llefydd:

    comediau radio
    cwmniau theatr (bach) neu grwpiau perfformio
    comedi 'sefyll lan'
    ysgrifennu dychanol (cylchgronau neu ffansin)


Yn saesneg mae digon o gynulleidfa (feirniadol) ar gael i'r uchod er mwyn sicrhau fod yna werth mewn creu sioe gomedi yn y lle cyntaf a fod y gorau yn dod i'r brig.

Dwi'n cael yr argraff fod y rhan fwyaf o gomedi cymraeg yn gael ei greu mewn gwacter a felly dyw e ddim yn cydio yn nychymyg y gynulleidfa.

PostioPostiwyd: Sul 06 Hyd 2002 10:17 pm
gan Siani
Gwyliais i bennod o "Bob a'i Fam" - rhaid rhoi chwarae teg i bopeth, wedi'r cyfan, a gobeithiais i y byddai'r gyfres hon yn wahanol i'r arfer, ond gwnaeth y bennod gadarnhau fy argraffiadau cyntaf o'r "trailers", yn anffodus. Rwy'n cytuno gyda ti, Dafydd, does dim digon o gyfle i gomediwr newydd berffeithio eu crefft, ond eto i gyd, does dim yr un traddodiad, a falle taw ni, y gynulleidfa, sy'n rhannol ar fai am hynny. Rwy'n deall oddi wrth ffrind a fu'n bresennol na fu noson "sefyll lan" y comediwr yn Steddfod Sir Benfro yn llwyddiannus iawn (o ran niferoedd yn y gynulleidfa). Rhaid i mi gyfaddef nad o'n i yno - ond es i i noson y "Saith Sant" ar y nos Fercher a mwynhau'n fawr, a chwerthin llawer. Ces i fy magu ar raglenni "comedi" Cymraeg a oedd i gyd wedi eu goractio a'u gor- ysgrifennu. Rwy'n gobeithio bob dydd am rywbeth sydd, o leiaf, ddim yn embarassing.

Alys - rwy'n cytuno gyda ti'n llwyr. Nid dim ond fi oedd yn aros yn ddiamynedd (iawn!) am gyfres newydd "League of Gentlemen" felly!

PostioPostiwyd: Llun 07 Hyd 2002 1:00 pm
gan Alys
Dwi'n cytuno efallai bod na ddiffyg cyfle a chynulleidfa digon eang i arbrofi gyda syniadau newydd.
Ond pwynt da hefyd ydi'r un am draddodiadau gwahanol, pob un gyda rhinweddau gwahanol. Yn wir, mae'r draddodiad comedi ar y teledu efallai yn gryfach (efo nifer helaeth o eithriadau!!) na'r un Gymraeg, ond ar y llaw arall, tria esbonio'r cysyniad a'r atyniad o noson fel y Saith Sant, neu Daith Glyndwr y llynnedd, i rywun o du allan o Gymru (barddoniaeth? Rhywbeth uchel-ael ac academaidd ...). Tybed a oes na negesfwrdd Saesneg yn rhywle ble maen nhw'n trafod "pam na allwn ni drefnu talwrn neu 'Stomp' llwyddiannus yma?"

PostioPostiwyd: Llun 07 Hyd 2002 1:22 pm
gan Alys
Nid dim ond fi oedd yn aros yn ddiamynedd (iawn!) am gyfres newydd "League of Gentlemen" felly!


Braf gweld ffan arall! Beth wyt ti'n feddwl hyd yma? Mae fwy tywyll (hyd yn oed) na'r cyfresi eraill, ond yr un mor wych. Roedd y pennod diweddara yn sôn am gomedi stand-up aflwyddiannus hefyd (Jeff yn mynd i Lundain i wneud ei ffortiwn) - cyd-ddigwyddiad neu beth?

PostioPostiwyd: Maw 22 Hyd 2002 12:26 pm
gan Meinir Thomas
'Wi'n lico'r rhaglen! Braf cael ychydig o "light relief" ar y bocs! Dwlen i weld Bob a Glesni'n mynd 'da'i gilydd. Ma'r Lowri 'na'n boen yn ti^n! Ble 'wi 'di gweld yr actores sy'n chwarae rhan Glesni o'r blaen? Mae'n edrych yn gyfarwydd.