Wel, ddim cweit, mwy fel Phone Boothon 5th and third ne be bynnag ma nhw'n galw'r ffacin strydoedd gwirion na'n Efrog Newydd.
Aye, es i weld y ffilm efo Colin Farrell, Kiefer Sutherland, Forest Whitaker a llawer o actorion anghofiadwy.
Ffilm am Publicist sy'n becso dam am neb sy'n mynd i flwch ffon a cael ei ddal yn wystl (na ddim yn dal whistle er sa'n rhoi troad swreal i'r holl beth) gan sniper sy'n ceisio gwneud iddo newid ei ffyrdd.
Byr (80 munud - ges i sioc mod i adra mor gynnar), a digon tense ar adegau, ond heb lwyddo i wneud be roedd o'n trio neud. Do'n i ddim yn teimlo'n clostroffobig iawn, roedd y gwaith camera yn gneud i fi deimlo'n fwy sal na chaeth. Roedd y deialog rhwng farrell a Sutherland yn eitha doniol ar adegau, ond prin oedd y rheiny. Mae hi'n annodd iawn cadw sylw rhywun ar sefyllfa mor static (fel 12 Dyn di gwylltio - ddylsa rywun neud remake Cymraeg wedi ei osod mewn talwrn lle ma rhywun yn twyllo!) a dim ond perfformiad Farrell sy'n dal, ond dio ddim yn dal yn ddigon da. O'n i'n edrach o gwmpas y sinema a chanolbwyntio mwy ar fy nghorneto mint ar brydia.
Ar y cyfan, gwan ond buasai wedi cymryd tipyn o sgil i'w gwneud hi i weithio beth bynnag. Marciau da i Farrell sy'n profi i fod yn dipyn o foi, dwi wastad yn licio Whitaker efo'i lygad gysglyd, a bygyr ol i'r cyfarwyddo. Mae hi dal yn rhif un yn UDA - mae'n dangos faint mor wan yw'r safon ar hyn o bryd. Post-oscar slump? Ffycin reit.
Cerwch i weld Intacto ddo...pryd dwi am gael gweld In This World?