Wedi gweld Jacob's Ladder echnos sydd efo dwy olygfa ynddi sydd yn neud i fi gachu brics pan dwi'n eu gweld, a does dim ots faint o weithiau y gwelai hi ma hi'n dal i ddychryn. Be di'r ffilm sy'n rhoi ias oer lawr eich cefn chi?
Un arall: (obsciwyr braidd sori) The Wedding - Robert Altman -ma na olygfa ar y diwedd sy'n horibl, un o'r ysbrydion na sy'n llercian yn y cyrtans a sa neb yn ei weld - hollol anisgwyl yn nghyd destun y ffilm.
Nath Freddie roid diawl o ofn i fi pan o'n i'n fach. Yr holl stwff breuddwydion na - dim siawns o fynd i gysgu.
The Shining - pan ma'r twins ar y landing a'r ddynas yn y bath...da chi'n gwynbod y gweddill.
Un diweddar - The Ring(Jap) - yr olygfa olaf (siwr o fod r'un peth ar yr un newydd) o'n i jest ddim yn ei ddisgwyl. Ma gennai thing am llygid mewn horrors - unrhyw un efo pupils anferth jest yn ddychrynllyd. Hendre Hall/Emporium?
Suspiria - weird ofn - jyst rhy weird - dim sens - jest dychryn am eich bod yn spun out am be sy'n mynd mlaen.
Dowch laen ta, be di'ch list?