Ffilmiau Mwyaf Dychrynllyd?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Siani » Gwe 09 Mai 2003 7:07 pm

Croeso!
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Ffinc Ffloyd » Llun 12 Mai 2003 5:19 pm

Mi welais i Alien am y tro cynta neithiwr. Doedd hi ddim mor sgeri ac on i'n ddisgwyl, ond mi oedd y tensiwn yn anhygoel. Ffilm dda iawn felly.

Mi ddychrynodd Jaws fi yn uffernol pan welis i hi gynta - don i'm ond 9 ar y pryd. "I think we'll need a bigger boat..."

Dwi erioed wedi gweld The Shining na The Wicker Man, ond dwi'n gwybod sut mae The Wicker Man yn gorffen. Dwi wedi gweld ambell i glip o The Shining hefyd - be ydy'r crac efo'r ddwy hogan bach? Be ydy'r corff yn y stafell? A be sy'n digwydd pan mae'r hogyn bach yn cyraedd y lifft ar ei dreisicl?
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 12 Mai 2003 9:58 pm

Mi welais i Alien am y tro cynta neithiwr. Doedd hi ddim mor sgeri ac on i'n ddisgwyl, ond mi oedd y tensiwn yn anhygoel. Ffilm dda iawn felly.


Oedd, roedd o'n wych. O'n i newydd orffan gwylio Magnolia a roedd o ar y teli. Yr effects y thing na'n dod allan o'r ceg yn edrych chydig yn mecanical rwan, ond ma na rwbath amdan rhen Sigourney. Sut nathon nhw wasgu hi mewn i nics mor fach dwad??

O ia oedd y darn ar y diwadd lle mae'r Alien yn cael ei blastio allan o'r booster rocet thing, fatha diwadd Buck Rogers, lle ma nhw jest wedi ffilmio dwr yn disgyn ar gamera efo cefndir du. Ddim yn effeithiol iawn erbyn hyn i lygaid sydd wedi gweld gormod o CG. Ma popeth wedi mynd mor clinical da chi'm yn meddwl? yn ol y rifiws ma Matrix Reloaded fod bach fel'na...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Idris » Llun 12 Mai 2003 11:29 pm

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Mi ddychrynodd Jaws fi yn uffernol pan welis i hi gynta - don i'm ond 9 ar y pryd. "I think we'll need a bigger boat..."


Gei di chwerthin, dwi ddim. Ers i fi weld Jaws, bob tro dwi'n mynd i dwr dwi'n weld o'n dod amdana fi. Fedrai'm nofio'n mor ne gai panic atac/hartan.
Yn pwll nofio, nesh i weld be o ni'n feddwl oedd ffin Jaws, ond be oedd o mewn gwirionedd oedd penelin rhywun yn neud front crawl efo'r haul yn sgleinio arny fo. Yr un siap (ond mewn gwaed oer, be ffwc ma sharc yn da yn baths Bangor?) Eniwe, gesh i hartan a nofio ar draws leins pawb yn rhoi ambell beltan a chael cic wrth ruthro allan o'r pwll. Odd powb yn sbio'n wirion arna fi.
Mae fy siwt nofio yn shop Barnardos, ond y sdaen brown wedi'i olchi ymaith.

odd She Devil y gyfres nid ffilm, yn codi ofn arna fi.
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan nicdafis » Maw 13 Mai 2003 7:12 am

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:A be sy'n digwydd pan mae'r hogyn bach yn cyraedd y lifft ar ei dreisicl?


Wel, mae'r drysau yn agor a daw...

Na, sori, rhaid i ti wylio'r ffilm. Cei di brynu fe ar fideo am £5 erbyn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ffinc Ffloyd » Mer 14 Mai 2003 3:33 pm

O, cym on!

Sgenai'm pres i wario ar fideos - dwi isio mynd ar binj arall ar Amazon i brynu mwy o records Dream Theater. A record Larry Carlton a Steve Lukather.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Gethin Ev » Mer 14 Mai 2003 3:35 pm

Gwaed, llwyth o waed yn dod or lifft. Mae o yn dda.
Enjoia dy albums.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Di-Angen » Mer 14 Mai 2003 3:40 pm

Ffilmiau scary pan oeddwn i'n blentyn oedd pethau fel yr Amityville series, Jason ayb. Dwi'm yn cael yr un fath o ofn o ffilmiau erbyn hyn, a felly'n preferrio stwff mwy psychological - rhywbeth fel Audition yn awesome.

Ond roedd Death Wish 2 yn scary uffernol. Why god why???

Oes na rhwyn yn cofio 'Ghost Watch' ar BBC, hefo Sarah Green yn presentio fo ar Halloween dechra 90au. Oedd a nhw deud bod nhw'n darlledu'n fyw o ty gyda ghost ynddo. Mr Pipes, fo oedd y ghost. nath hwnna cachu fio fynnu, big style!


Wedi gweld DVDs Ghosdtwatch ar ebay.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Mer 14 Mai 2003 5:01 pm

Di-Angen a ddywedodd: a felly'n preferrio stwff mwy psychological - rhywbeth fel Audition yn awesome.


Mae Di-Angen a finne yn un.

Honna oedd y ffilm mwya erchyll dw i wedi gweld erioed. Doedd dim byd ynddo a oedd yn amhosibl, dim byd uwch-naturiol, ac oedd yn araf iawn i adeiladu'r tynder. Erbyn y diwedd o'n i'n gweiddi "naaaaa!" ar y teledu ac yn cuddio tu ôl i glustogion y soffa fel bachgen 10 oed yn gwylio'r cybermen ar Dr Who.

Nodwyddau.

Llygaid.

Oes angen dweud mwy?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 14 Mai 2003 10:10 pm

Siani a ddywedodd:Roedd "GhostWatch" (Calan gaeaf 1992) nid yn unig yn ddiddorol, ond yn hanesyddol! http://www.forteantimes.com/articles/16 ... atch.shtml Does dim modd i'r BBC ail ddarlledu'r rhaglen, dw i ddim yn credu, ar ol cyhuddiadau bod y rhaglen wedi arwain at hunanladdiad bachgen, a hefyd oherwydd problemau cyfreithiol yn sgil cyfraniad Guy Lyon Playfair (gweler ei lythyr yng nghylchgrawn "Fortean Times" rhifyn mis Mai eleni).


Dwi yn cofio Ghostwatch ! Rhaglen uffernol o dda. Blair Witch cynnar yn fy marn.

Rhaid i mi ddweud Blair Witch Project oedd wedi rhoi braw i mi. Wedi defnyddio pwer yr awgrymiad a pwer ein dychymyg ein hunain mewn ffurf wych.

Ddim am fraw ond rhoid y creeps i chi ydi ffilm gwych or enw 'night of the hunter' gyda Robert Mitchum. Ffilm anhygoel !

Dwi yn caru darn pryd mae dau blentyn yn mynd lawr y afon ganol y noson a darn lle mae'r ddau yn cysgu yn cyt gwellt a gweld cysgod y Pregethwr yn mynd ar ei geffyl yn y cefndir. Gwych.

Gall unrhyw un rhoid i mi enwau o ffilm sydd yn rhoid braw i chi ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron