Ffilmiau Mwyaf Dychrynllyd?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffilmiau Mwyaf Dychrynllyd?

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 28 Ebr 2003 11:52 pm

Wedi gweld Jacob's Ladder echnos sydd efo dwy olygfa ynddi sydd yn neud i fi gachu brics pan dwi'n eu gweld, a does dim ots faint o weithiau y gwelai hi ma hi'n dal i ddychryn. Be di'r ffilm sy'n rhoi ias oer lawr eich cefn chi?

Un arall: (obsciwyr braidd sori) The Wedding - Robert Altman -ma na olygfa ar y diwedd sy'n horibl, un o'r ysbrydion na sy'n llercian yn y cyrtans a sa neb yn ei weld - hollol anisgwyl yn nghyd destun y ffilm.

Nath Freddie roid diawl o ofn i fi pan o'n i'n fach. Yr holl stwff breuddwydion na - dim siawns o fynd i gysgu.

The Shining - pan ma'r twins ar y landing a'r ddynas yn y bath...da chi'n gwynbod y gweddill.

Un diweddar - The Ring(Jap) - yr olygfa olaf (siwr o fod r'un peth ar yr un newydd) o'n i jest ddim yn ei ddisgwyl. Ma gennai thing am llygid mewn horrors - unrhyw un efo pupils anferth jest yn ddychrynllyd. Hendre Hall/Emporium? :lol:

Suspiria - weird ofn - jyst rhy weird - dim sens - jest dychryn am eich bod yn spun out am be sy'n mynd mlaen.

Dowch laen ta, be di'ch list?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 29 Ebr 2003 10:03 am

Nesi i brynnu copi VHS o'r Texas Chainsaw Massacare yn ddiweddar. Clasur o ffilm lo-budget. Braidd yn disturbing, yn enwedig yr hanner awr olaf. Ma'r trac sain yn wych hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 29 Ebr 2003 12:22 pm

Oedd Blair Witch yn weddol sbwci, ond dimyn rhy ddrwg. Mi welish o'n ddiweddar ac oddwn i wedi bod yn yfad lot o win. So dwi'n beio'r Lambrusco am UNRYW ddychryn, dalltwch!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Siani » Maw 29 Ebr 2003 8:30 pm

Blair Witch? Rhoddais i bob chwarae teg iddi, do wir - gwyliais i hi yn hwyr yn y nos, ar fy mhen fy hunan, a gyda'r golau wedi diffodd. Ro'n i wedi clywed cymaint amdani, ei bod hi mor ddychrynllyd. Ond ro'n i'n dal i ddisgwyl y "darnau dychrynllyd" pan ddaeth y credydau olaf! Dim. Waeth ddim i fi.

"Jacob's Ladder" - gwahanol iawn. Gwelais i hi yn y sinema blynyddoedd nol, a dwi'n gwrthod ei gwylio nawr pan mae hi ar y teledu achos ei bod hi wedi hala cymiant o ofna arna i.

Hen ffilm, du a gwyn, ond dal yn effeithiol - "The Haunting" (NID y remake diweddar gyda Catherine Zeta, ond yr un wreiddiol gyda Richard Johnson a Julie Harris) http://www.the11thhour.com/archives/092 ... nting.html

A beth am"The Wicker Man"? Clasur arall sy'n dal i allu peri i bobl deimlo'n anghynnes iawn. http://www.nuada98.fsnet.co.uk/nuada%203/

Ffilmiau cyfoes? Beth am "Dog Soldiers"? Ffilm Prydeinig, gyda digon o drais a gwaed, cast gwych (Sean Pertwee, Liam Cunningham a chriw o enwau newydd, talentog) - a dim CGI unrhywle yn agos! http://www.dogsoldiers.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 29 Ebr 2003 9:21 pm

Nes i rili mwynhau The Haunting (un newydd) ond doedd hi'm yn rhoi gachfa arna i.

Dwi methu meddwl am ffilm sydd wir wedi nychryn i. Rwbath hwyrnos ar S4C siwr o fod
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Leusa » Maw 29 Ebr 2003 10:12 pm

Gwbod fod hyn yn hollol stiwpid, ond ellaim gwylio ffilmiau dychrynllyd achos mae genna i ffenest yn y to ac ers i mi weld ryw raglen ar s4c o'r blaen o'r enw 'O'r ochor draw' [pan oedd na ryw wrach fach yn sgratsho'r ffenest arno fo] mae gena i ofn gweld rhywun neu rhywbeth yn y ffenest...
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Dyl mei » Maw 29 Ebr 2003 10:28 pm

ti wedi clywed am y ferch fach na nath Diflannu yn llanuwchlyn
tua 20 Mlynedd yn ol...oedd na son am gwrach a ffenest amser yna.
oooooooooooooooo.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 29 Ebr 2003 11:11 pm

A beth am"The Wicker Man"? Clasur arall sy'n dal i allu peri i bobl deimlo'n anghynnes iawn.


Aye, mi oedd honno'n ddigon anghyfforddus, welis i'r director's cut yn ddiweddar. Od bod y bits nathon nhw dorri yn lliw gwahanol i'r gweddill - oherwydd bo nhw wedi ffeindio'r cuts ar telecine yn lle'r ffilm gwreiddiol, a methu matsio'r lliwiau. Dio ddim yn amharu arni seerch hynny.

Nes i rili mwynhau The Haunting (un newydd) ond doedd hi'm yn rhoi gachfa arna i.


Cytuno a Siani fan hyn - oedd o fatha Hammer Horror braidd, saff a gormod o effeithiau CGI sy'n gneud o hanner mor ddychrynllyd am eich bod chi'n gwybod mai CGI ydi o. Faswn i'n licio gweld yr hen un yna ddo...

Welis i Blair Witch yn y sinema fwya dwi rioed di bod ynddi yn Sydney - bach o ddim byd deud gwir.

Be am sci-fi horror? Mae Event Horizon (neu Sphere dwi'n meddwl amdani?) fod yn eitha sceri. Hefyd Dark Star am rough thriller/sceri.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gruff Goch » Maw 29 Ebr 2003 11:14 pm

Dyl mei a ddywedodd:ti wedi clywed am y ferch fach na nath Diflannu yn llanuwchlyn
tua 20 Mlynedd yn ol...oedd na son am gwrach a ffenest amser yna.
oooooooooooooooo.


Nes i glywed am hynny. Mae'n debyg fod y peth mor erchyll nad ydi pobl yr ardal yn siarad amdano fo o gwbl- dim ond tu hwnt i gyffiniau LLanuwchllyn ma' nhw'n gwybod y stori ac yn barod i'w adrodd.

Pwy 'sa'n meddwl fod cymaint o ffyrdd gwahanol o ddefnyddio corkscrew?

o, sori...

Mwahaha! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 29 Ebr 2003 11:16 pm

Allan o http://www.the11thhour.com/archives/092000/videoreviews/haunting.html nath Siani gyfeirio ato

Most of this movie takes place in Eleanor and the viewer's mind. Nothing is spelled out for you. You are experiencing what the character experience, learning when they do, becoming frightened as they do.


...esbonio'n union pam fod Jacob's Ladder yn ddychrynllyd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron