Gwelais i ffilm newydd Doug Liman <i><a href="http://www.metacritic.com/film/titles/bourneidentity">The Bourne Identity</a></i> yn y ddinas fawr dros y sul ac roedd yn wych. Roedd tri o'm hoff actorion - Chris Cooper, Brian Cox, Clive Owen - ynddi, ac mae'r boi ifanc 'na Matt Damon yn dod ymlaen yn dda fel blaenwr ffilmiau cynhyrfus. Braf hefyd i weld <a href="http://www.franka-potente.de/">Franka Potente</a> eto ar ôl ei pherfformiad gwych yn <a href="http://www.german-way.com/cinema/fpotente.html">Rhed, Lola</a>.
Peth arall oedd yn braf oedd clywed cymeriadau Ewropeaidd yn siarad eu hiaithoedd eu hunain mewn ffilm Americanaidd. Mae'n wastad yn lletchwith gweld "Almaenwyr" yn siarad Saesneg â'i gilydd mewn ffilm achos dydy cynulleidfa Americanaidd ddim yn hoffi darllen is-teitlau. Falle bod llwyddiant ffilmau megis <i>Crouching Tiger</i> a hyd yn oed <i>Fellowship of the Ring</i> (gyda'i dyrneidiau o Elfeg wedi'i his-teitlo) wedi helpu yn hynny o beth?
Mae 'na jôc bach neis yn ffilm Richard Linklater <i>Before Sunrise</i> am y broblem hon: cymeriadau Ethan Hawke a Julie Delpy (Ffrances sy bron yn uniaith Saesneg trwy'r ffilm) yn crwydro strydoedd Fienna ac yn stopio i gael sgwrs â dau lanc lleol. Ar ôl i Ethan ofyn iddynt os ydyn nhw'n medru'r Saesneg mae un ohonyn nhw'n dweud "Yes, but can't we speak German, just for a change?"
Ydy e'n bosibl bod y to newydd o gyfarwyddwyr Americanaidd sy wedi magu ym myd ffilmiau annibynnol, megis Liman, Linklater ac ati, ac yn nawr sy'n yn dod yn rhan o'r <i>mainstream</i> yn gallu newid agwedd cul tuag iaithoedd a diwylliannau gwahanol mewn ffilmiau mawr Hollywood? Neu, ydy e'n fwy tebyg mod i wedi yfed gormod o goffi y bore 'ma?