Tudalen 1 o 1

The Bourne Identity

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 11:45 am
gan nicdafis
Gwelais i ffilm newydd Doug Liman <i><a href="http://www.metacritic.com/film/titles/bourneidentity">The Bourne Identity</a></i> yn y ddinas fawr dros y sul ac roedd yn wych. Roedd tri o'm hoff actorion - Chris Cooper, Brian Cox, Clive Owen - ynddi, ac mae'r boi ifanc 'na Matt Damon yn dod ymlaen yn dda fel blaenwr ffilmiau cynhyrfus. Braf hefyd i weld <a href="http://www.franka-potente.de/">Franka Potente</a> eto ar ôl ei pherfformiad gwych yn <a href="http://www.german-way.com/cinema/fpotente.html">Rhed, Lola</a>.

Peth arall oedd yn braf oedd clywed cymeriadau Ewropeaidd yn siarad eu hiaithoedd eu hunain mewn ffilm Americanaidd. Mae'n wastad yn lletchwith gweld "Almaenwyr" yn siarad Saesneg â'i gilydd mewn ffilm achos dydy cynulleidfa Americanaidd ddim yn hoffi darllen is-teitlau. Falle bod llwyddiant ffilmau megis <i>Crouching Tiger</i> a hyd yn oed <i>Fellowship of the Ring</i> (gyda'i dyrneidiau o Elfeg wedi'i his-teitlo) wedi helpu yn hynny o beth?

Mae 'na jôc bach neis yn ffilm Richard Linklater <i>Before Sunrise</i> am y broblem hon: cymeriadau Ethan Hawke a Julie Delpy (Ffrances sy bron yn uniaith Saesneg trwy'r ffilm) yn crwydro strydoedd Fienna ac yn stopio i gael sgwrs â dau lanc lleol. Ar ôl i Ethan ofyn iddynt os ydyn nhw'n medru'r Saesneg mae un ohonyn nhw'n dweud "Yes, but can't we speak German, just for a change?"

Ydy e'n bosibl bod y to newydd o gyfarwyddwyr Americanaidd sy wedi magu ym myd ffilmiau annibynnol, megis Liman, Linklater ac ati, ac yn nawr sy'n yn dod yn rhan o'r <i>mainstream</i> yn gallu newid agwedd cul tuag iaithoedd a diwylliannau gwahanol mewn ffilmiau mawr Hollywood? Neu, ydy e'n fwy tebyg mod i wedi yfed gormod o goffi y bore 'ma? :?

PostioPostiwyd: Mer 25 Medi 2002 9:45 pm
gan Di-Angen
Cefais gyfle i weld y Bourne Identity am yr ail waith wythnos diwethaf, a mwynheais e llawer mwy yr ail waith rownd am ryw reswm (casau tro cyntaf).

O ran yr Ewropeans yn siarad eu hieithoedd eu hunain, neis ei weld am unwaith - Yn bersonol, rwy'n casau gweld tramorwyr yn siarad Saesneg er na fyddai Saesneg wedi bod yn iaith gyntaf i nhw, bron gymaint a rwy'n casau ffilmiau wedi eu dybio!

Pan ron i yn yr ysgol blynyddoedd yn ol, cafodd ein dosbarth ni y pleser o gael gweld fideo Saesneg wedi ei ddybio yn y Gymraeg. Casau dybio -Dyw'r swn byth yn dilyn y cegau, a dyna un o'r pethau mwyaf infuriating i weld.

PostioPostiwyd: Iau 26 Medi 2002 12:06 am
gan Siani
Rwy'n cofio'r arbrawf trychinebus hwnnw hefyd, yn nyddiau cynnar S4C - yn arbennig rwy'n cofio "Shane" (alla i ddim anghofio, er i fi drio!), ac un o ffilmiau Frankenstein stiwdios Hammer. Erchyll! Ai'r rhain ti'n meddwl amdanyn nhw? Byddan nhw wedi bod yn ddoniol dros ben, petaen nhw heb fod mor embarrassing.