Pwpgorn

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwpgorn

Postiogan Idris » Gwe 16 Mai 2003 12:57 pm

Cyfweliad Saesneg Cymro di-Gymraeg arall ar y raglen gachu Popcorn heno.

Ydwi'n eithafol yn meddwl fod gormod o Saesneg ar y rhaglen (e.e. y cyfweliad crap efo Iwri Gelar)?

Pam ddim holi rhai o'r artistiaid cerddorol sydd ar y rhaglen? e/.e. Melys, Steffan Cravos, Maharishi...oce ta, dim Maharishi.

ond fforffycsecs, aeth pobol ddim i garchar er mwyn cael y cachu yma, does bosib.

Gwerth ymweld a safle we S4C, i weld yr holl reolau ieithyddol sydd yno am ddefnyddio Cymraeg coeth, idiomau a phriod-ddulliau naturiol a threiglo'n gall.
A be yda ni'n gael, ambell linc o Gymraeg crap gan Ian Cotrel sy'n esgusodi diffyg paratoi a methiant i ddarllen awto-ciw efo'r cyfaddefiad 'sori, dwi'n dod o Glwyd', a llwyth o gyfweliadau efo Z-list selebs sydd rhy amhoblogaidd i fod ar raglenni Channel 5. Yn Seusnag, ar y sianel sydd fod i adlewyrchu diwylliant y Cymry Cymraeg.
Gwarth?
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan nicdafis » Gwe 16 Mai 2003 1:50 pm

Cytuno'n llwyr. Dw i'n hoff iawn o sdwff Rob Brydan (y Cymro di-Gymraeg) ond rhaid bod na digon o le ar BBC Wales ac HTV iddo fe gael gwthio beth bynnag mae'n e'n gwthio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 16 Mai 2003 8:03 pm

Dwi'n cytuno hefyd. Mae Popcorn yn un o'r rhaglenni 'na sy'n lled-diddorol i'w gwylio, dwi'n meddwl, ond 'sdim angen nac eisiau cael DIM Saesnaeg arni hi o gwbl. Dydi hi ddim yn ormod disgwyl i raglen Cymraeg holi pobl sy'n medru Cymraeg, siwr?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan nicdafis » Sad 17 Mai 2003 8:08 am

Wel, tapiais i fe a gwylio y bore 'ma. >>>>>>>>Cerys Matthews yn canu emyn>>>>>>>>>Pacino dros y credydau. Gollais i unrhywbeth pwysig?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Bobi » Sad 17 Mai 2003 4:01 pm

Cytuno'n llwyr! O leia oedd Neil Hamilton yn gallu siarad Cymraeg!!! Faswn i'n deall tasa nhw'n siarad hefo selebs mawr, ond be 'di'r pwynt gollwng y Gymraeg er mwyn siarad hefo hasbeens fel Pol Daniyls a Iwri Gelyr?? Dwi'm yn licio cymharu hefo rhaglenni plant (hei, s'gen i'm byd arall i'w neud am bedwar y p'nawn heb ddarlithoedd!!) ond oedd Noc Noc a Uned 5 (sy'n raglenni eithaf tebyg i Popcorn am wn i) yn medru llenwi awr o deledu mewn Cymraeg a hefo ser Cymraeg. Pam fod angen hasbeens Saesneg ar Popcorn i lenwi 25 munud :rolio: ?? Rhowch o ar digidol ne wbath!!
Bobi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Mer 16 Hyd 2002 12:43 pm

Postiogan Nionyn » Sul 18 Mai 2003 11:10 am

Oedd Liberty-X ddim arno fo rhywbryd? Er dwi'm yn cyfri unrhyw un i neud efo pop yn ser, a mae ser pop cymraeg yn mynd ar fy nerfa fwy na rhai saesneg.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Postiogan Lleucu » Mer 21 Mai 2003 8:39 pm

A'i denu cynulleidfa ifanc ydi'r nod?! Os felly pam cyfweld hasbeens fel Pol Daniels a Iwri Geler?! Tydi cynnal cyfweliadau yn Saesneg mor aml ddim yn creu argraff dda ar neb!
Mae na ddigon o bobol ifanc diddorol Cymraeg o gwmpas.
Mae hon yn rip-off arall - Ffor Popcorn! - 'sa waeth iddyn nhw newid yr enw i 'TFI Gwener' ddim!
Rhithffurf defnyddiwr
Lleucu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 35
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:23 pm

Postiogan Idris » Gwe 23 Mai 2003 11:53 am

Boisi o Only Fools And Horses ar y rhaglen heno. Ydio'n medru iaith y nefoedd?

Caryl Parry Jones yn canu hefyd. rywun arall yn meddwl fod hi fel Lorraine Kelly - dynas sydd ddigon hen i fod yn fam i fi, ond eto fyswn i wrth fy modd yn 'ei gwneud' hefyd.
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan Geraint » Gwe 23 Mai 2003 5:12 pm

Mae Cottrell a Bethan Elfyn yn edrych fel dau waxworks sydd di bod dan golau'r stwidio yn rhy hir ac ar fin toddi....
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan fisyngyrruadre » Gwe 23 Mai 2003 7:11 pm

Y cyfweliad gyda'r actor sydd yn chwarae Boycie yn 'Only Fools And Horses'. Pam??
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai