Tudalen 3 o 3

Re: cocporn

PostioPostiwyd: Mer 04 Meh 2003 5:34 pm
gan Idris
Idris a ddywedodd:mae cymhelliad Cotrel yn y wad sylweddol o arian sy'n dod iddo o goffrau'r channell No 4.
os dydio ddim yn coelio yn Pwpgorn, ddyla fo ddom ymddangos arno. Mae methiant Pwpgorn yn fethiant Cotrel - cyfrifoldeb pawb, nid jest y cynhyrchydd.

Cotrel/talentog? arfer canu mewn band, neud Bandit sbesh arno'n DJ'io yn Ibiza Innit, wedyn ar 4Trac mae fel y dyn pren o'r hysbyseb Ronseal yn dalek peilon yn cyflwyno'n glogyrnaidd ddileits cerddorol.
ymhell o fod yn dalent, rwy'n ei osod yn yr un cae a mab Huw Eic, y Rhodri Boio sydd mor sdiff a choc Ron Jeremi ar set ffilm bornograffig.

hefyd mae'n sicoffant llwyr yn ei gyfweliadau efo bandiau - yn union fel Radio Cymru, mae'n rhoi'r argraff fod pob band yn wych.
Ydi mor anodd a hynny i fod yn onest a dweud fod rhywbeth yn shait?


mae'r uchod yn esiampl o duedd Idris i fynd dros ben y llestri ar ddiwedd p'nawn syrffedus o ddiflas. mae'r ymosodiad personol uchod yn hollol warthus - fe'i gwnaed heb fawr o feddwl.
Yn wahanol i gynhyrchwyr Popgorn felly, rwyf wedi dysgu gwers bwysig heddiw - mae'n bwysig meddwl cyn gweithredu.
Rwyf wedi dewis Cotrel fel cogyn hitio ar gyfer fy ffrystrasiwn gyda rhaglen sy'n sarhad arnom.
Sdim pwynt trio deud fy mod yn un o bennaf edmygwyr Cotrel, dydi'r hogyn jest ddim yn padlo fy dingi.
Ond mae rhaglen yn fwy na'i chyflwynydd ac mae'n rhy hawdd beio'r wyneb cyhoeddus sy'n ffryntio'r anfadwaith.
Felly ymddiheuraf i'r ffans am eu siomi. Codaf fy sannau o hyn allan.

PostioPostiwyd: Mer 04 Meh 2003 10:04 pm
gan Rhys Llwyd
Dwim yn lico Cottrell ond ma Beth yn cwl.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 3:07 pm
gan Idris
er mwyn cynnal cysondeb ychwanegaf fy mhishyn ffiffti i'r drafodaeth ar gyflwynydd bendherofer-ywaidd Pwpgorn

Dydi 'Beth' ddim yn gneud na deud dim byd ar Pwpgorn i fod yn cwl, dim ond aildwymo darnau titiog o'r wasg felen llawn straeon am wallt newydd capten tim pel-droed lloegr.
hynny a gosod y cwestiwn ar gyfer ennill y gwobrwyon (sydd werth eu cael, gyda llaw), neu fynd drwy'r drefn boenus-lafurus o alluogi Toni Titsan o Tremeirchion i ofyn i Caryl 'Pwy oedd dy arwr pan yn blentyn?'

Ti siwr ti heb gymysgu ei gwaith radio gyda'r anfadwaith Pwpgorn?

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2003 9:57 pm
gan Rhys Llwyd
Ti siwr ti heb gymysgu ei gwaith radio gyda'r anfadwaith Pwpgorn?


Cyfeirio ati hi'n gyffredinol yr oeddwn nid yn benodol mewn unrhyw fodd na lle.

plopkorm

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2003 2:43 pm
gan jet
peidiwch a disso'r cythral. mae o'r ychydig dalent sydd yn haeddu rhywbeth call iddo ei gyflwyno. mi ddylia nhw adael iddo benderfynu sut raglen mae o am ei wneud, yn hytrach na chael deinasoriaid di-ddychymyg yn camddefnyddio nhw a godro eu talentau a'u credibility.
be am wneud rhywbeth am y peth cyn i'r sianel suddo i abergofiant. :?:

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2003 5:04 pm
gan Chwadan
Ma Beth a Cotrel yn iawn yn unigol ond ma'r cemistri sydd rhyngtho nhw ar Popcorn fatha'r cemistri sy rhyngtha i a'r compiwtar ma, h.y. dim. Tasa'r rhaglen yn cal'i chynhyrchu yn iawn mi fasa hi'n llawer mwy slic a ddim cweit mor embarasing i sbio arni. O ran y cynnwys, mai'n ddigon difyr ond os dwisho gweld cyfweliada efo Jerome Flynn etc nai sbio ar BBC3.