Tudalen 1 o 3

UK GOLD CYMRAEG

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 12:00 am
gan Cymro13
Chi'n meddwl base fe'n dda ail ddangos hen raglennu Cymraeg ar S4C digidol neu S4C 2 fel UK Gold yn dangos hen raglennu East Enders, Only Fools, Father Ted ayb ond yn Gymraeg
Pethau fel Hen Pobol y Cwm(Pan oedd e'n arfer bod yn dda)
C'mon Midffild
clasuron yr 80au a'r 90au
be chi'n feddwl???

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 8:14 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Onid hynny yw S4C Digidol?? Does 'na fawr o'm byd ond ripits arno: C'mon Midffîld, Syr Wynff a Plwmsan ar hyn o bryd, a dwi'n cofio gweld Dinas, Coleg, Jabas ac ati arno hefyd, heb sôn am ffilmiau fel Gaucho, Gadael Lenin, Branwen, Y Ferch Dawel ayb.

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 11:16 am
gan Twpsan
Syniad rili dda! Comedis fel Hapus Dyrfa hefyd. Ond rhaid dethol yn iawn de - ddim isio gweld stwff crap fel Lleifior! Hei, ydy S4C yn cael darlledu Pam fi Duw? Basa`i weld o o`r cychwyn yn wych!

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 11:21 am
gan Ray Diota
Twpsan a ddywedodd:Comedis fel Hapus Dyrfa [...] rhaid dethol yn iawn de - ddim isio gweld stwff crap...


:?

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 2:16 pm
gan Rhydfryd II
Be am sgrapio'r syniad o gael S4C-2 fel siannel o ryw rwj o'r Cynulliad sydd byth i weld yn darlledu bron. Yn ei le fysa na amrywiaeth o hen raglenni a ffilmiau Cymraeg. Ni fysa'n rhaid cael darllediad trwy'r dydd.

Ar y llaw arall ella sa'n syniad da i ail-wampio S4C Digidol fel fod mwy o glasuron yn cael eu darlledu ar ôl y rhaglenni (crap yn gyffredinol) cyfoes.

Yn bersonnol sw ni'n lecio gweld mwy o bethau newydd sydd acshwli yn dda ar S4C.

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2004 9:57 pm
gan lleufer
Syniad gwych.
Swn i wrth 'modd gweld ail ddarllediadau o 'Fo a Fe' hen gyfresi o 'PYC' gyda Nrs Mathias a Mr Tushingham a rhaglenni plant fel 'Bilidowcar' 'Miri Mawr' ac ati oherwydd sdim posib cael rhai o rhain ar fidio na difidi heddiw - bechod eu colli am byth tydy?

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 10:50 am
gan S.W.
Foltron, Ffalabalam, Glas y Dorlan, Dic Preifat,

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 11:12 am
gan Fatbob
Ma'n siwr fod Sbedarec yn cadw'r clasuron - Foltron, Ulysses a'r Ddau Ffrank tan y bydd terestrial yn cal y switch off a mond $4C Digidol fydd yn cael i ddarlledu. Ma'n rhaid cadw rhwbeth i ddangos pan fydd y sianel yn uniaith Gymreig. Dim ond gobeithio y gall S4C gynyddu i hincwm nhw yn y cyfamser er mwyn gallu cynhyrchu rhaglenni newydd o safon.

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 11:37 am
gan bartiddu
Syniad ysblennydd!

Cefn Gwlad yn wythnosol o'r rhaglen gyntaf un! 8)

A dwi am ail weld y ffilm 'na am Bois y Frenni gyda Sion 'Dom' ynddo fecyn classic! (beth o'dd enw'r film?)
"Rumm dumm rumm a dumm dumm rumm a dumm a didlai ooo!" bydd y video yn barod tro nesa!
:D

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 12:57 pm
gan fisyngyrruadre
Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9, Fideo 9. Nawr.