Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
*HERO69* a ddywedodd:fi moyn gweld Ma' ifan ma' :
"Mam! Mam! Fi gatre mam!!"
"Oooo Ifan, ble ti'di bod?"
falle bod e'n cael ei ripito yn barod...?
Twpsan a ddywedodd:Ryan a Ronnie; ffalabalam; hen pobol y cwm; pam fi duw?; rownd a rownd o`r dechra; clipsen; ty chwith; delyth a bethan; yyyyyyyyy dwn i`m be arall. Wwwwww ydw mi ydw i - hen pantos jeifin jenkins a`r rhai cwmni mega - twm sion cati, robin sion ap croeso, jac ar jyreiniym, blodeuwedd, brenin arthur.... plis plis plis gawn ni rhain - neu jest gneud seleb filled panto cymraeg arall fel hen rai jeifin?!?!?
dafydd a ddywedodd:Be dwi eisiau gwybod yw os oes dal copiau o rhaglenni Cymraeg cynnar ar gael (yn enwedig rhai y BBC a HTV cyn bodolaeth S4C) neu ydyn nhw wedi ailgylchu'r tapiau?
Dwi erioed wedi gweld clipiau o rhai rhaglenni cynnar (rhai byw er enghraifft) yn cael ei dangos unrhywle (o'n i'n disgwyl gweld un neu ddau ar y rhaglen gyflwynwyd gan Aled Sam yn ddiweddar)
Mae gan S4C (a BBC) ganllawiau nawr wrth gwrs i gadw copi o raglenni yn y llyfrgell wedi darlledu ond sgwn i faint o deledu cymraeg cynnar sydd ar goll?
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai