Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 1:27 pm
gan Rhydfryd II
Tra da ni'n trafod hen glasuron S4C rhaid rhoi mensh i Jabas...

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 1:28 pm
gan LosinMelysGwyrdd
No a Ned. Clasur!!! Gyrru mam lan y ffwkin wal. :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 2:57 pm
gan *HERO69*
fi moyn gweld Ma' ifan ma' :

"Mam! Mam! Fi gatre mam!!"
"Oooo Ifan, ble ti'di bod?"

falle bod e'n cael ei ripito yn barod...?

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 3:01 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
*HERO69* a ddywedodd:fi moyn gweld Ma' ifan ma' :

"Mam! Mam! Fi gatre mam!!"
"Oooo Ifan, ble ti'di bod?"

falle bod e'n cael ei ripito yn barod...?


O leia' unwaith bob dau fis :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 3:06 pm
gan *HERO69*
falle dylen i gwylio s4c cyn ymateb yn y edefynnau fel hyn

ond dwi'n caru'r dyfyniad uchod am ei fod yn fy atgoffa i o'm mhlentyntod!

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 4:54 pm
gan Twpsan
Ryan a Ronnie; ffalabalam; hen pobol y cwm; pam fi duw?; rownd a rownd o`r dechra; clipsen; ty chwith; delyth a bethan; yyyyyyyyy dwn i`m be arall. Wwwwww ydw mi ydw i - hen pantos jeifin jenkins a`r rhai cwmni mega - twm sion cati, robin sion ap croeso, jac ar jyreiniym, blodeuwedd, brenin arthur.... plis plis plis gawn ni rhain - neu jest gneud seleb filled panto cymraeg arall fel hen rai jeifin?!?!?

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 6:28 pm
gan benni hyll
Mewn byd perffaith....CERDDORIAETH: 'Fideo 9', 'Y Bocs', 'Roc 'Rol Te', 'Ser'.....'COMEDI: 'Y Cleciwr', 'Siop Siafins', 'Torri Gwynt' ac unrhywbeth efo Dyfed Thomas, Dyfan Roberts neu Caryl ynddo fo....FFILMS:'Ymadawiad Arthur', 'Stormydd Awst', 'Y Dyn Nath Ddwyn Y Dolig', 'Ibiza, Ibiza,' 'Steddfod, Steddfod', 'O'r Ddaear Hen', 'Un Nos Ola Leuad'...STWFF PLANT: 'Miri Mawr', 'Ty Chwith', 'Gwely Blodau' a 'Jeifin Yn Bobman' 8)

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2004 3:39 pm
gan Bobi
Twpsan a ddywedodd:Ryan a Ronnie; ffalabalam; hen pobol y cwm; pam fi duw?; rownd a rownd o`r dechra; clipsen; ty chwith; delyth a bethan; yyyyyyyyy dwn i`m be arall. Wwwwww ydw mi ydw i - hen pantos jeifin jenkins a`r rhai cwmni mega - twm sion cati, robin sion ap croeso, jac ar jyreiniym, blodeuwedd, brenin arthur.... plis plis plis gawn ni rhain - neu jest gneud seleb filled panto cymraeg arall fel hen rai jeifin?!?!?


Dwi'n cofio'r holl bantomeims 'na - yr unig un sydd gen i ddim ar fidio ydi Jiw Jiw Jeifin Jenkins. Oes gan unrhyw un gopi neu fodd o wneud copi i mi? Mi faswn i'n fodlon talu!! Pam na allan nhw ail-adrodd rhain adeg y 'Dolig - os nad, yn well, gwneud un newydd!
Hefyd, dwi'n eilio ail-ddangos Ffalabalam, Ty Chwith, Pam fi Duw, yr hen Amdanis, Hapus Dyrfa, C'mon Midffild, hen Pobol y Cwms, Jabas a Tydi Bywyd yn Boen... be sy'n digwydd i'r holl raglenni 'ma?
Ella mai nid dangos rhain ar sianel arall ydi'r ateb - ond newid S4C Digidol fel ei fod yn darlledu trwy'r dydd yn hytrach na o amser cinio ymlaen... Neu wneud S4C 2 yn gynulliad byw (os oes rhaid!) trwy'r dydd a newid i S4C Aur o tua 4 ymlaen? Mae'n biti MAWR colli'r holl glasuron!

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2004 4:05 pm
gan dafydd
Be dwi eisiau gwybod yw os oes dal copiau o rhaglenni Cymraeg cynnar ar gael (yn enwedig rhai y BBC a HTV cyn bodolaeth S4C) neu ydyn nhw wedi ailgylchu'r tapiau?

Dwi erioed wedi gweld clipiau o rhai rhaglenni cynnar (rhai byw er enghraifft) yn cael ei dangos unrhywle (o'n i'n disgwyl gweld un neu ddau ar y rhaglen gyflwynwyd gan Aled Sam yn ddiweddar)

Mae gan S4C (a BBC) ganllawiau nawr wrth gwrs i gadw copi o raglenni yn y llyfrgell wedi darlledu ond sgwn i faint o deledu cymraeg cynnar sydd ar goll?

PostioPostiwyd: Iau 28 Hyd 2004 6:48 pm
gan Rhydfryd II
dafydd a ddywedodd:Be dwi eisiau gwybod yw os oes dal copiau o rhaglenni Cymraeg cynnar ar gael (yn enwedig rhai y BBC a HTV cyn bodolaeth S4C) neu ydyn nhw wedi ailgylchu'r tapiau?

Dwi erioed wedi gweld clipiau o rhai rhaglenni cynnar (rhai byw er enghraifft) yn cael ei dangos unrhywle (o'n i'n disgwyl gweld un neu ddau ar y rhaglen gyflwynwyd gan Aled Sam yn ddiweddar)

Mae gan S4C (a BBC) ganllawiau nawr wrth gwrs i gadw copi o raglenni yn y llyfrgell wedi darlledu ond sgwn i faint o deledu cymraeg cynnar sydd ar goll?


Garantîd fod na gopîau yn bodoli yn rwla, er ma shwr fod na ormod o lwch arnynt i allu eu hadnabod erbyn hyn ddo!