Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 29 Hyd 2004 7:53 am
gan Fatbob
Bobi a ddywedodd:Ella mai nid dangos rhain ar sianel arall ydi'r ateb - ond newid S4C Digidol fel ei fod yn darlledu trwy'r dydd yn hytrach na o amser cinio ymlaen...


Dyna di'r syniad unwaith ma teledu terrestial yn dod i ben ymhen rhai blynyddoedd. Yn ol be dwi'n deall ma modd i S4C ddefnyddio'r aill ffrwd(S4C 2) fel 'interactive service' fel BBCi h.y. pan odd yr Olympics ymlaen tase chi'n gwasgu'r botwm coch mi allech chi ddewis pa chwaraeon i'w wylio - felly gallech chi wylio Cymro yn saethu gwn neu fwa a saeth yn hytrach na gorfod gwylio + gwrando am pa mor wych oedd athletwyr Lloegr. Yn yr un modd mi fydd S4C Digidol yn medru gwneud defnydd o'r botwm coch ar raglenni fel y 'Steddfod, y Royal Welsh neu gyda gemau Rygbi ac ati. :D

Cywirwch fi os dwi di camddeall y sytem newydd.

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2004 11:09 am
gan Dylan
Mae'r gallu i wasgu'r botwm coch ar gyfer digwyddiadau'r Eisteddfod yn swnio i fi fel y syniad gorau erioed yn hanes syniadau. Wir.

o.n. Hafoc!

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2004 11:41 am
gan Lowri
Ma da ni Uk Gold Cymraeg yn barod i ddweud y gwir nagos e? S4C digidol!!! Na gyd sydd ar y sianel hwn yw ailddangosiadau!! Ond, er hyn dwi'n credu mi fyddai'n syniad da i gal sianel fel hyn i ailddangos clasuron fel:- Hapus Dyrfa, Ibiza Ibiza, Iechyd Da, Amdani a.y.b yn lle raglenni diflas, diwerth sydd arno nawr.

Siarad am gael sianel UK Gold Cymraeg, ydych chi'n teimlo fod angen ail-wampio raglenni S4C yn gyfangwbl? Rhaglenni safonol efallai?!! :rolio: :wps: :wps:

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2004 11:51 am
gan lleufer
Rhydfryd II a ddywedodd:
dafydd a ddywedodd:Be dwi eisiau gwybod yw os oes dal copiau o rhaglenni Cymraeg cynnar ar gael (yn enwedig rhai y BBC a HTV cyn bodolaeth S4C) neu ydyn nhw wedi ailgylchu'r tapiau?

Dwi erioed wedi gweld clipiau o rhai rhaglenni cynnar (rhai byw er enghraifft) yn cael ei dangos unrhywle (o'n i'n disgwyl gweld un neu ddau ar y rhaglen gyflwynwyd gan Aled Sam yn ddiweddar)

Mae gan S4C (a BBC) ganllawiau nawr wrth gwrs i gadw copi o raglenni yn y llyfrgell wedi darlledu ond sgwn i faint o deledu cymraeg cynnar sydd ar goll?


Garantîd fod na gopîau yn bodoli yn rwla, er ma shwr fod na ormod o lwch arnynt i allu eu hadnabod erbyn hyn ddo!


Dw i wedi cysyllty a HTV sawl tro yn holi am y rhaglenni cynnar yma (yn enwedig y rhai plant (Cymraeg) o'r 70au), i weld os oes fidios neu difidis ar gael ond heb gael ateb byth! :crechwen:
Buasai'n drist iawn petawn yn colli rhain am byth... :crio:

Ewch i fan hyn am gip -

http://www.hhg.org.uk/progs.html

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2004 12:33 pm
gan dafydd
Dylan a ddywedodd:Mae'r gallu i wasgu'r botwm coch ar gyfer digwyddiadau'r Eisteddfod yn swnio i fi fel y syniad gorau erioed yn hanes syniadau. Wir.

Mi wnes i weithio ar prosiect peilot ar gyfer yr union beth yma yn 1999. Ar y pryd, roedd y dechnoleg yn anaeddfed iawn a doedd e ddim yn bosib ei ddefnyddio (roedd hyn cyn i neb arall lawnsio gwasanaethau botwm coch). Mi roedd hi'n broses uffernol o ddrud a mae hi dal yn ddrud iawn datblygu gwasanaeth o'r fath.

I fod yn onest, dwi'n credu fod hi'n well i'r Eisteddfod a S4C wario eu arian prin mewn meysydd eraill. Mae technolegau y we yn fwy addawol (a mil gwaith rhatach) ar gyfer unrhyw weithgaredd rhyngweithiol o'r fath.

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2004 12:53 pm
gan Dylan
'Dw i'n gwybod ei fod yn ddrud uffernol a bod arian yn brin. Ond alla' i dal freuddwydio :(

o'r Pafiliwn i'r Babell Len i'r Babell Roc ac yn ol eto :dribble:

Re: UK GOLD CYMRAEG

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2013 11:02 pm
gan seithiennyn
A phwy felly sy'n cofio Gari Gonc a'i Sbectol Hyd? :D