Postiwyd: Gwe 29 Hyd 2004 7:53 am
Bobi a ddywedodd:Ella mai nid dangos rhain ar sianel arall ydi'r ateb - ond newid S4C Digidol fel ei fod yn darlledu trwy'r dydd yn hytrach na o amser cinio ymlaen...
Dyna di'r syniad unwaith ma teledu terrestial yn dod i ben ymhen rhai blynyddoedd. Yn ol be dwi'n deall ma modd i S4C ddefnyddio'r aill ffrwd(S4C 2) fel 'interactive service' fel BBCi h.y. pan odd yr Olympics ymlaen tase chi'n gwasgu'r botwm coch mi allech chi ddewis pa chwaraeon i'w wylio - felly gallech chi wylio Cymro yn saethu gwn neu fwa a saeth yn hytrach na gorfod gwylio + gwrando am pa mor wych oedd athletwyr Lloegr. Yn yr un modd mi fydd S4C Digidol yn medru gwneud defnydd o'r botwm coch ar raglenni fel y 'Steddfod, y Royal Welsh neu gyda gemau Rygbi ac ati.
Cywirwch fi os dwi di camddeall y sytem newydd.