Tudalen 1 o 1

Taro Naw

PostioPostiwyd: Maw 01 Hyd 2002 11:52 am
gan Beth
Beth oedd barn pawb am raglen nos Lun o Taro Naw - dwi'n meddwl eu bod nhw di trio rhoi sylw i ormod o bethau yn hytrach na cheisio canolbwyntio ar un broblem sef pam fod cymaint o bobl yn symud o'u hardaloedd genedigol i Gaerdydd.

Mae angen i rhywun edrych be ydi'r ganran o bobl efo gradd sydd yn gadael eu cymunedau - rhain sydd yn aml methu cael gwaith.

Hefyd edrych ar y modd i gael swyddi allan o Gaerdydd - oes angen i bob adran o'r Cynulliad fod yno?

Biti mae dim ond hanner awr o raglen oedd hi - dydi'r broblem fawr hon ddim yn cael digon o sylw.

PostioPostiwyd: Mer 02 Hyd 2002 1:19 pm
gan Geraint
Weles i ddim y rhaglen, ond ar ol symud i Gaerdydd yn ddiweddar, allai ddim credu faint o Gymry sydd wedi symud yma. I feddwl am maint y cymunedoedd ar pentrefi da ni'n gadael, mae'n rhaid ei fod yn cael effaith dinistriol iawn. Mi es i weithio ym Mangor am dipyn cyn symud lawr yma, a gweithio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg bron trwy'r amser, a nawr dwi ddim yn defnyddio'r iaith yn fy ngwaith yn aml, sydd yn teimlad drist.Yr unig ffordd dw i'n teimlo fel rhan o gymuned Cymraeg yng Nghaerdydd yw mynd i Glwb Ifor Bach nos Sadwrn, ond efallai fod hyn achos dwi ddim yn byw yn Canton/Pontcanna!
Mae'n rhaid dweud fod yn peth da yn aml i fobl ifanc mynd i brofi bywyd yn y ddinas, ond y problem yw nad oes digon o swyddi i ddychwelyd nol i. Dw i am symud o Gaerdydd rhywbryd, ond unwaith da chi yma, mae o'n anodd iawn gadael

PostioPostiwyd: Mer 02 Hyd 2002 4:05 pm
gan Di-Angen
Geraint a ddywedodd:Weles i ddim y rhaglen, ond ar ol symud i Gaerdydd yn ddiweddar, allai ddim credu faint o Gymry sydd wedi symud yma.


Fel dinas yng Nghymru, mae'r mwyafrif o drigolion Caerdydd wedi bod yn Gymry erioed.

PostioPostiwyd: Iau 03 Hyd 2002 1:22 pm
gan Beth
Dwi'n un o'r rhai sydd wedi aros ar ôl yng ngogledd Cymru, mae'n anhygoel faint o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith sydd wedi gadael bellach - dwi ddim yn eu beio'n llwyr - mae'r swyddi da yng Nghaerdydd. Dwi'n chwilio am waith rwan does yna ddim swyddi i drio amdanyn nhw. Dwi'n prynu'r Daily Post a'r Western Mail i chwilio am waith ac mae'r mwyafrif o'r swyddi da yng Nghaerdydd. :(

Oes yna rhywun wedi byw yn JMJ Bangor neu Pantycelyn Aberystwyth yn y blynyddoedd diwethaf - mi faswn i'n rhoi ges fod tua 1/2 y rhai oedd ym Mhantycelyn o fewn y 5-8 mlynedd diwethaf wedi mynd i Gaerdydd. :rolio:

Mi fasen ddiddorol gwybod faint o Gymry Cymraeg sydd wedi cael gradd sydd wedi mynd i Gaerdydd. Mi wnes i drio ffeindio allan ond dydi'r brifysgol ddim yn cadw gwybodaeth am fyfyrwyr dim ond am flwyddyn ar ôl iddyn nhw adael.

OND, er nad ydw i'n beio'r rhai sydd wedi mynd i Gaerdydd rhaid iddyn nhw ddeall na fydd y cymunedau Cymraeg mae'n nhw wedi eu gadael yn parhau i fod yn ganolfannau Cymraeg diwylliedig am byth. Mae'n ddigon hawdd deud rwan y gnewch chi symud yn ôl pan gewch chi blant, ond mae arna i ofn na fydd posib i'r rhai ohonan ni sydd ar ôl i gadw'r hyn gawson ni gyd ein magu gyda nhw (ee adrannau'r urdd, ysgolion sul, clybiau ffermwyr ifanc, corau) i fynd.

Rhaid i ni sylweddoli ein bod ni'n colli cenhedlaeth o Gymry Cymraeg i fynd i Gaerdydd :(