Matrix Reloaded..

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Matrix Reloaded..

Postiogan Di-Angen » Iau 22 Mai 2003 11:16 am

sucks...

Mae yna bit yn y ffeit gyda'r cant clone lle mae Agent Smith yn dweud "More" (as in "we need more"). Mae hwn yn encapsulat-io'r ffilm yn berffaith. Mwy o'r un peth, ond gant gwaith yn fwy impressive, ambitious ayb.

Mae'r action scenes yn superb. Dim argument yn fan yna. Ond mae'r ffilm yn cael ei adael lawr gan dialogue gwael (ac appallingly o cheesy ar adegau). Mae monologues rhai o'r pobl pwysig (architect etc) yn needlessly complicated ar adegau, ac yn rhoi'r argraff bod yr holl "style over content" issue wedi gwyrio yn lot rhy bell at yr ochr style.

Pe bai nhw wedi gwario mwy o amser ar y sgript, byddai hwn wedi bod yn ffilm fucking superb. Yn anffodus, beth ni'n cael yw possibly y best/most technical/choreographed action scenes erioed, sy'n cael ei adael lawr gan plot gwan, wanky pseudo-philosophy a cheesy as fuck lines.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan sbwriel » Iau 22 Mai 2003 11:24 am

falle fod e heb fyw lan i dy 'expectations', ond ma hwna siwr o fod achos yr hype ar statws cylt ma'n nhw wedi amgylchynnu'r ffilm gyda...
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Re: Matrix Reloaded..

Postiogan Nionyn » Iau 22 Mai 2003 12:27 pm

Di-Angen a ddywedodd:...wanky pseudo-philosophy...


Dwi'm yn cofio o lle ges i'r linc i'r erthygl yma, ond oedd o'n fy bwcmarcs i rhywsut. Erthygl am grefydd yn y Matrix ydy o, dim byd newydd, ond un o'r erthygla gwell dwi di ddarllen am hyn.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Postiogan revs » Gwe 23 Mai 2003 10:32 am

Dwi wedi weld y ffilm dwywaith rwan, dyma be dwin ei feddwl amdanno..

Onnin happus am faint o action oedd ynddo fo, oeedwn i yn disgwyl dim byd on cwffio a ballu, ond i bob munud o hynny mae yna munud o plot a stori iawn.

Mar film efo'r run actio a sydd yn yr rhan gynta, ar sgript ychydig yn well dwin meddwl, yn anwedig 'Link', sydd di cael reactions da gin y crowd y ddau waith i fi weld y ffilm.

Buaswn i ddim yn deud bod y rhan efor architecht yn "needlessly complicated", mae e just yn siarad yn gyflym, a program ydyw, felly maen neud hollol sense, just goro neud siwr bo chi yn taly sylw.

Maer film yma efo twists da ar y plot, a rhai petha bysar pobol sydd di gwatchiad anime am hir wedi weld or blaen, neu yn gallu geld yr influence.

Oherwydd cafodd y 3 rhan ei sgwennu ar yr run adeg (oedd y scripts wedi ei neud erbyn at least '96), mar steil, a popeth fel yr gynta, ac dydy hyn ddim yn 'sequel' fel ma rhai yn deud, na 'lets make it bigger and better' chwaith, ma'r scripts ar action a popeth i gyd wedi cael ei neud flynyddoedd nol, a os wyddoch chi am arddull y ddau frawd fe wyddoch bod bob darn o action yn cael ei sgwennu (mewn llawer iawn o detail) i fewn ir script, ma nhw hefyd yn neud comics, a fellu ma na llawer iawn o llunia specific yna hefyd.

Peth sydd yn poeni fi ydyd 169 o ddiwrnoda tan y rhan nesa :)

revs
"mae cymraeg chdi'n flippin ffyni de! ond dal ati wa... " Nionyn
Rhithffurf defnyddiwr
revs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Gwe 25 Ebr 2003 6:10 pm
Lleoliad: Y Brifdinas

Postiogan Huw T » Sad 24 Mai 2003 11:02 am

Ffilm ddigon da chware teg. Yn amlwg rodd y 'mind-blowing concept' o'r un gyntaf wedi mynd, ond gallen ni ddim fod wedi disgwyl gwell. Falle ei bod hi'n wir am y pseudo philosophy...sain siwr. Pan y meddwyliwch chi fod athrylythion yn treulio oes yn meddwl am y problemau hyn, does hardly disgwyl i ffilm Hollywood eu hateb mewn un golygfa.

2 gwyn am y ffilm. Un- oedd e bach o rip off o Star Wars/ Lord of the Rings/ Cristnogaeth. 2 - oedd na ambell i olygfa hollol pointless, fel y 'dancing/shagging' scene ar y dechre a ath mlaen am 5 munud. Pam?? Teimlo falle fod nhw wedi cymryd deunydd i un ffilm, a'i stretcho hi allan i neud 2.

Ta waeth, very thought provoking, cewch i'w gweld, a roll on yr un nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 27 Mai 2003 11:27 pm

Wedi gweld hi heno,

ges i fy siomi deud y gwir. O'n i'n gwybod fasa na lawer o action scenes ynddo am mai fel na roedd y stori am fynd yn dilyn y trilogy (fel nath LOTR: TTT, a Empire SB) ond mae'r athroniaeth tu ol iddo'n cael ei esbonio ormod, pam fod raid ei sillafu E-I F-O-D A-M D-D-E-W-I-S. Gimme a break, dyna oedd yn dda am y cynta oedd ei fod chydig o mystery, mae hon yn gneud y camgymeriad mawr na mewn ffilm o ddeud o yn lle dangos o.
Di-Angen: cytuno efo dy farn ar yr Architect, dwi isio gallu absorbio fo gyd y tro cynta, dwi'm isio gorfod gwylio ffilm eto i wrando ar ail hannar ei monologue, dwisio mynd nol i sbio am y nuances - a fydd na rai fan hyn? Hardli. Ma'r references room 101 Orwell yn cael ei ddefnyddio sawl gwaith a'r holl ddelweddaeth Cristionogaeth wedi mynd yn or amlwg.

Pan y meddwyliwch chi fod athrylythion yn treulio oes yn meddwl am y problemau hyn, does hardly disgwyl i ffilm Hollywood eu hateb mewn un golygfa.

Sdim angen atebion jest gosod cwestiynna i'r gynulleidfa ei gofyn iddyn nhw eu hunain a dadansoddi eu hunain.

Mae'r effeithiau wedi colli eu fflach braidd hefyd mewn ffordd, er o'n i'n hoff o'r darn pan ma'r agent yn bownsio o bonet un car i'r llall.

Cerwch i weld Secretary yn lle, ffilm wych sexy, weird. James Spader ar top kook form.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Cardi Bach » Gwe 06 Meh 2003 11:20 am

Siom mawr...ddim patsh ar y gynta - jyst drifel i neud lot o cash yw e.
beth odd point yr olygfa secs a dawnso? pam drago fe mor hir? a'r olygfa lle ma keanu yn clatsho yn y parc - lot rhy hir.
trennu na gethon ni weld y digwyddiade yn zion (trial pido gweud gormod) ar y diwedd.

cytuno fod e'n dilyn hen batrwm blinedig 'star wars' ayb yr arwr yn rebel all achub y byd/dynoliaeth ayb - hen batrwm sy'n mynd yn ol i chwedloniaeth Gymraeg a'r Mab Darogan - Owain Glyndwr (a diwylliannau eraill hefyd, mae'n siwr).

Wrth edrych ar y Matrix cynta o'n i'n bersonol ddim yn gweld Neo fel rhyw-fath o ymdrech ar Iesu, ond yn hytrach y neges 'Gristnogol' weles i, ond mae'n itha amlwg yn yr ail Matrix bod y cynhyrchwyr wedi trial creu Neo yn rhyw fath o Iesu - sydd jyst yn sbwilo'r ffilm i fi - mae'n rhy 'amlwg' a phlentynaidd felly - dyn nhw ddim yn gadel i'r gwylwyr i fwynhau 'intricacies' y ffilm. mae hyn i gyd yn neud e'n ffilm banal a diflas wedyn.

wedi gweud ni fi dal am weld y trydydd - falle bydd hwnna'n gwella pethe! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 06 Meh 2003 11:26 am

wedi gweud ni fi dal am weld y trydydd - falle bydd hwnna'n gwella pethe!

Dwi'n gobeithio am yr un peth ar gyfer LOTR hefyd...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan methu meddwl » Maw 17 Meh 2003 11:29 pm

matrix=bolycs
bolycs=matrix
d gwel y cynta, dalld ffwc ol, dwim n meddwl bona sens iddo fo eniwe. keanu reeves methu acdio a wel dwim n dalld r hype.

WEDI deu huna, mi onin pissed yn gwachad o so dim sypreis bod om n neu sens A onin otherwise engaged :winc: ar adega.
mae aml drol yn troi cyn cyrraed yr ardd
Rhithffurf defnyddiwr
methu meddwl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 365
Ymunwyd: Maw 17 Meh 2003 10:59 pm
Lleoliad: ty v,nunlla sbeshal..acshyli na,ma pontllyfni yn sbeshal iawn!!


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 12 gwestai

cron