Tudalen 1 o 1

Red Dragon

PostioPostiwyd: Maw 01 Hyd 2002 6:39 pm
gan Di-Angen
Cefais gyfle i weld ffilm newydd Hannibal Lecter, sef <a href="http://us.imdb.com/Title?0289765" target="_blank">Red Dragon</a>, prynhawn yma.

Am ffilm! Ar ol y disappointment a oedd "Hannibal", mae'r ffilm yma'n mynd nol i basics Silence of the Lambs, a rhoi psychological thriller gwych.

Mae Edward Norton yn wych fel yr FBI agent (fel yr ydym yn disgwyl ohono o bob ffilm) a Ralph Fiennes hefyd yn wych ac yn bwerus iawn fel y serial killer. Anthony Hopkins yn OK fel Lecter, er mai glorified extended cameo yw ei gymeriad i bob pwrpas. Perfformiadau da hefyd gan Harvey Keitel a Phillip Hoffman.

Fe welais "Manhunter" blynyddoedd yn ol, ond dwy ddim yn cofio llawer ohono, felly hoffwn ddim gymharu'r ddau - ond mae'r fersiwn newydd yma yn cael y thumbs-up gan fi!

PostioPostiwyd: Maw 01 Hyd 2002 7:03 pm
gan nicdafis
Dw i <i>yn</i> cofio fersiwn Michael Mann, felly bydda i'n mynd i weld hon gyda disgwyliadau eitha uchel. Roedd <i>Manhunter</i> yn class act, ac roedd Lector Kenneth Cox yn cwbl wahanol i'r un Syr Tony, ond fel ti'n dweud dim lot mwy na cameo yw Lector yn y stori hon. Mae cymeriad Will Graham yn lot fwy diddorol ta beth a'r perthynas rhyngddo fe a Lector yw asgwrn cefn y ffilm (o leia, yn y fersiwn wreiddiol).

Roedd <i>Hannibal</i> yn siomedig, ond do'n i ddim yn meddwl oedd y llyfr cystal â'r ddau eraill, chwaith. Dydy Lector ddim y cymeriad cryfa sy wedi cael ei greu gan Thomas Harris, jyst yr un mwya bancadwy.

Ydy Ralph yn chwarae <i>Inagaddadavida</i>?

PostioPostiwyd: Mer 02 Hyd 2002 4:24 pm
gan Di-Angen
nicdafis a ddywedodd:Dw i <i>yn</i> cofio fersiwn Michael Mann, felly bydda i'n mynd i weld hon gyda disgwyliadau eitha uchel. Roedd <i>Manhunter</i> yn class act, ac roedd Lector Kenneth Cox yn cwbl wahanol i'r un Syr Tony, ond fel ti'n dweud dim lot mwy na cameo yw Lector yn y stori hon. Mae cymeriad Will Graham yn lot fwy diddorol ta beth a'r perthynas rhyngddo fe a Lector yw asgwrn cefn y ffilm (o leia, yn y fersiwn wreiddiol).

Roedd <i>Hannibal</i> yn siomedig, ond do'n i ddim yn meddwl oedd y llyfr cystal â'r ddau eraill, chwaith. Dydy Lector ddim y cymeriad cryfa sy wedi cael ei greu gan Thomas Harris, jyst yr un mwya bancadwy.

Ydy Ralph yn chwarae <i>Inagaddadavida</i>?


Fiennes yw'r Tooth Fairy - Francis Dolarhyde - gyda tattos neis a perfformiad pwerus.

PostioPostiwyd: Mer 02 Hyd 2002 5:18 pm
gan nicdafis
Ie, dw i'n gwybod. Yn <i>Manhunter</i> oedd Dolerhyde yn ffan <a href="http://www.ironbutterfly.com/">Iron Butterfly</a> ac mae'n chwarae eu cân enwoca wrth baratoi i ladd y ferch ddall.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Hyd 2002 10:27 pm
gan Di-Angen
Right.

Byth wedi clywed am Iron Butterfly felly aeth dy sylwadau dros fy mhen yn llwyr.

Mae Fiennes yn chwarae lot o vinyls gyda'r fenyw dall yn Red Dragon, on dim clue beth yw nhw.

PostioPostiwyd: Sad 05 Hyd 2002 9:20 am
gan nicdafis
nicdafis a ddywedodd:... ac roedd Lector Kenneth Cox yn cwbl wahanol i'r un Syr Tony...


Le<i>k</i>tor, nid Lector.

<i>Brian</i> Cox, nid Kenneth. Dw i wastad yn cymysgu Brian Cox a Kenneth Cranham, am ryw reswm.

Dyma <a href="http://www.garbledonline.net/enterthedragon.html">erthygl fach am <i>Manhunter</i></a>

o'r erthygl a ddywedodd:Cox's chilling portrayal of Lektor is a definite highlight, fiercely intense, and infinitely more menacing than Hopkins' ghoulish interpretation. Peterson is superb in the central role of Will Graham, and Francis Noonan is outstanding as 'the tooth fairy', competently showing the human side of the character as well as his psychopathic tendencies. Noonan took method acting to new levels during filming, refusing to mix with or even meet any other member of the cast until the cameras were rolling.

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 10:46 am
gan Meleri
Wedi mwynhau Red Dragon gymaint penwythnos diwethaf, yn mynd i'w weld eto heno: am hwyl!!

PostioPostiwyd: Llun 18 Tach 2002 8:34 pm
gan ceribethlem
Lektor, nid Lector.


Os gaf fod yn pedantic fan hyn, Lekter oedd cymeriad Brian Cox!!

PostioPostiwyd: Llun 18 Tach 2002 9:45 pm
gan nicdafis
Wyt ti moyn bet? Neu <a href="http://www.googlefight.com/cgi-bin/compare.pl?q1=hannibal.lektor&q2=hannibal.lekter&B1=Make+a+fight%21&compare=1&langue=us">ffeit</a>, hyd yn oed? ;-)

PostioPostiwyd: Maw 19 Tach 2002 7:40 pm
gan ceribethlem
Diddorol, heb weld hwnna o'r blaen.

Ta beth dyw democratiaeth ddim bob amser yn gweithio :winc: