Da chi'n wneuthurwr ffilm neu'n nabod unrhyw rai?
Mae Sgrin cymru yn chwilio am sgriptiau arswyd/scifi/thriller 3munud o hyd ar gyfer eu cynllun ffilmiau byr Screen Gems.
Os mae ganddoch chi syniad, brysiwch i'w anfon am fod y dyddiad cau ar y 6ed o Fehefin.
Ma wir angen rhagor o bobol yn gwneud ffilmiau byr a hir drwy gyfrwng y Gymraeg felly rhowch dro arni (dim ond dau gais o 82 oedd yn y Gymraeg y flwyddyn diwethaf ).
Am fanylion pellach a ffurflen gais ewch i wefan Sgrin Cymru
Mae na hefyd gyfleoedd hyfforddi ar y job i gynhyrchwyr, gweithredwyr camera, a golygyddion.