Tudalen 5 o 6

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Mer 14 Gor 2010 3:53 pm
gan Hazel
Diolch, Duw. Yr ydych chi'n gweithio'n galed.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Sul 01 Awst 2010 12:42 pm
gan osian
Dydi hon ddim yn broblem fel y cyfryw, dim ond syniad, a dwnim lle i roi o.

Pan dwi'n clicio ar linc ar facebook a rhai gwefannau erill, ma'r linc yn agor mewn ffenest/tab arall. Fysa'n bosib cael yr un fath ar maes-e? Ar y funud dwi'n tueddu i glicio ar y linc ac anghofio dod yn ôl yma!

Dio'm byd mawr, jysd 'sa reit handi, diolch!

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Llun 02 Awst 2010 9:35 pm
gan Duw
OK Osian - wedi gwneud. :gwyrdd:

Syniad da. Prawf: cemeg

Aficionados HTML - sori - os oes gwrthwynebiad mawr - rhowch wybod.

//Ar fy hols tan ddiwedd Awst - felly dim newidiadau pellach tan hynny, heb law fy mod yn teimlo'n masocistig a mynd ati trw'r hen Fwyaren.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Sad 28 Awst 2010 9:59 pm
gan Duw
AELODAU NEWYDD!

Rwyf wedi trwsio (gobeithio!) problem mewngofnodi ar gyfer aelodau a wnaeth gofrestru yn ystod Gorffennaf/Awst.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 9:42 pm
gan Duw
SBAM!

Efallai bo rhai ohonoch wedi sylwi ar lu o sbamwyr yn ddiweddar. Yn anffodus, mae rhai ohonynt wedi mewngofnodi gan law yn hytrach na defnyddio spambots, naill ai ni, neu mae'r Captcha wedi'i gracio. Beth bynnag, dwi wedi gosod cwestiwn yn y Gymraeg at y sgrin cofrestru i geisio ag atal sbamwyr rhag ymaelodi. Mae'r defnydd hwn dal yn arbrofol, felly byddwn yn ddiolchgar os allech chi anfon NB i mi os ydych chi'n dod ar draws unrhyw beth sy'n edrych fel sbam. Diolch

//GER LLAW

Oherwydd y cwestiwn hwn, fe welwch chi blwch ychwanegol yn eich proffil (ugain tynnu pedwar) - stim angen i chi wneud unrhyw beth ynghylch â hwn - anwybyddwch e.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 29 Maw 2011 11:59 am
gan Hazel
Nid wyf yn derbyn negeseuon ebost am atebion i fy nhanysgrifiadau neu am fy negeseuon preifat newydd. Unrhyw un arall?

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 29 Maw 2011 10:11 pm
gan Duw
Dwi wedi hysbysu Hedd o'r broblem. Sicrha dy fod yn gwirio dy osodiadau yn dy broffil. Diolch Hazel.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 29 Maw 2011 10:34 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd:Dwi wedi hysbysu Hedd o'r broblem. Sicrha dy fod yn gwirio dy osodiadau yn dy broffil. Diolch Hazel.


Diolch, Duw. Ie, rwy i wedi gwirio fy ngosdiadau yn fy mhroffil.

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Llun 04 Ebr 2011 5:01 pm
gan Hazel
Os gwelwch yn dda, a oes 'na unrhyw beth y gallaf i'n ei wneud er mwyn datrys y broblem hon? Oes gan rhywun ryw syniadau?

Re: Problemau gyda maes-e

PostioPostiwyd: Maw 05 Ebr 2011 5:47 pm
gan Duw
Hmm, gwnaf gysylltu â Hedd eto. Sori Hazel.