Tudalen 1 o 6
Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Llun 21 Ion 2008 11:10 pm
gan Hedd Gwynfor
A wnewch chi nodi yma os gwelwch yn dda os ydych chi'n sylwi ar unrhyw broblemau technegol, neu wallau ieithyddol, neu adrannau sydd yn ymddangos yn Saesneg.
Diolch!

Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Llun 21 Ion 2008 11:53 pm
gan Mwnci Banana Brown
Peth od i ti weud, ond dwi wedi bod yn cal sawl error page yn dod lan. Sai cweit yn cofio popeth wedd en gweud, ond rwbe i neud ar database, a max users neu rwbeth. Nai nodyn or peth tro nesa. Ma maes-e yn pallu agor, mar tudalen error ma'n dangos yn lle ni.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 12:16 am
gan Hedd Gwynfor
Diolch am rhoi gwybod. Ie, mae hwn wedi bod yn broblem. Ife heno ti wedi gweld hwn neu neithiwr? Dwi'n rhedeg ambell i sgript yn ymwneud gyda'r teclyn chwilio ar hyn o bryd, ac efallai fod hwn yn creu problem! Dwi ddim yn credu ei fod yn digwydd yn rhy aml, ac mae'r bobl sy'n rheoli'r gweinydd wedi cael gwybod, ac on the case!

Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 12:34 am
gan Mwnci Banana Brown
Neithwr a heno. Treues i neud 'print screen' gyne ond weithodd e ddim mas fel we ni di disgwyl. Os welai e to, gei di'r manylion i gyd.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 12:36 am
gan Mwnci Banana Brown
Dwin gwbod am ffordd i gwoto'r [bots] ar rhestr aelodau sy arlein fyd os ti moin fi baso fe mlan, ond dwin siwr bo rwun da ti fyna i sorto hwna mas.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 11:45 am
gan Hedd Gwynfor
Oes rhywun arall yn gweld y neges yma pan yn postio bore 'ma?
Gwall Cyffredinol
SQL ERROR [ mysql4 ]
Table 'w' is marked as crashed and should be repaired [1194]
SQL
SELECT w.word_id, w.word_text, m.title_match FROM phpbb_search_wordmatch m, phpbb_search_wordlist w WHERE m.post_id = '351437' AND w.word_id = m.word_id
BACKTRACE
FILE: includes/db/mysql.php
LINE: 158
CALL: dbal_mysql->sql_error()
FILE: includes/search/fulltext_native.php
LINE: 1224
CALL: dbal_mysql->sql_query()
FILE: includes/functions_admin.php
LINE: 757
CALL: fulltext_native->index_remove()
FILE: includes/functions_posting.php
LINE: 1360
CALL: delete_posts()
FILE: posting.php
LINE: 1440
CALL: delete_post()
FILE: posting.php
LINE: 279
CALL: handle_post_delete()
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 11:48 am
gan sian
Do - wrth dreio postio.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 11:49 am
gan sian
Do - wrth dreio postio.
Ddwywaith.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 11:49 am
gan sian
Do - wrth dreio postio.
Ddwywaith.
Dair gwaith.
Re: Problemau gyda maes-e

Postiwyd:
Maw 22 Ion 2008 12:42 pm
gan Aran
Mae'n edrych fel bod Maredudd wedi sortio fo rwan, chwarae teg iddo...
