Helo pawb, dim ond gair cyflym i sôn am sawl nodwedd/ffwythiant newydd:
Postwyr ar y BrigAr waelod tudalen yr hafan mae adran yn dangos y postwyr sydd wedi cyfrannu mwyaf (erioed) a dros y 3 diwrnod diwethaf.
Y MurDyma mur, yn debyg i'r hyn sydd ar sawl safle fel Facebook ac ati. Mae modd i chi ysgrifennu sylw i fur eich hunain neu i un rhywun arall. Wrth fewngofnodi, gallwch weld o'r bar o dan y pennyn os ydych wedi derbyn sylw newydd. Cofiwch fydd modd i bawb weld y sylw hwnnw!
Golwg cyflym ar y mur:
Os oes problem wrth ei ddefnyddio, rhowch NB i mi yn ddiymdroi.
Mwy o ategynnau/mods i ddod.