Tudalen 2 o 3
Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Iau 26 Chw 2009 11:13 pm
gan Hedd Gwynfor
Swdocw wedi ychwanegu -
sudoku/sudoku.phpManylion llawn am yr holl Nodweddion Newydd yma -
newydd.php
Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Sad 28 Chw 2009 11:58 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae un Nodwedd ychwanegol wedi'i ychwanegu, diolch eto i Duw. Radio yw'r dolen diweddaraf i ymddangos islaw logo maes-e. Trwy bwyso ar y ddolen yma, bydd modd i chi wrando ar Radio Cymru neu Radio Curiad yn hawdd, ac yn fyw arlein.
Cofiwch bod rhaid i chi fewngofnodi cyn gallu gweld nifer o'r nodweddion newydd.
Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Maw 10 Maw 2009 3:53 pm
gan Mali
Newydd fod ar y dudalen sgwrsio , ond neb yno. Mi driais i agor ffenestri eraill er mwyn cael clywed y ping ....ond yn ofer.
Sut mae cael sgwrs felly ar y dudalen sgwrsio?

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Maw 10 Maw 2009 4:51 pm
gan Duw
Mae cyn lleied o bobl yn mewngofnodi ar yr un pryd yn bresennol, mae'n anodd i ddal pobl. Felly dyfal donc... am nawr. Efalle bod syniad gan Hedd o ran trefnu amseroedd penodol bod pobl yn mynd i fod arlein???
Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Maw 10 Maw 2009 10:29 pm
gan Mali
Diolch ....

Oes modd gwybod os oes 'na rhywun yn y stafell sgwrsio , ac fe fuasa hynny'n rhoi dewis i chi fynd yno a'i peidio ?
Ddim isho bod yn niwsans chwaith....

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Mer 11 Maw 2009 9:40 am
gan Duw
Syniad ffantastig Mali - stim syniad gen i ble i rhoi hwnna - mae cwynion wedi codi parthed 'clyter' eisoes - sy digon teg. Beth am gosod seren (*) ar ol sgwrsio yn y pennyn pan fydd rhywun yn myned i mewn i'r peth, e.e.
FFORWM SGWRS NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : neb yn sgwrsio
FFORWM SGWRS* NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : rhywun wedi myned i sgwrsio
Neu ydy hyn yn rhy subtle?
//GOLYGU 16:39 11/03/09
Dwi'n meddwl fy mod wedi'i ddatrys - haws nag oeddwn yn meddwl. Dyle fod seren yn ymddangos drws nesaf i SGWRSIO os ydy rhywun wedi myned iddo a dim os nac oes unrhyw un yna. Dwi ddim yn gwybod os gall sefyllfa godi lle bo'r seren yn wag - bydd angen ei brofi i ffeindio mas - os allech roi gwybod i mi os ydy'r seren ymlaen a bod neb yna (hynny yw bod dim enw o gwbl yn y golofn dde heb law eich enw chi).
//GOLYGU 20:15 11/03/09
Wedi newid y seren i nifer y pobl sydd tu fewn SGWRSIO (cais Hedd). Ychydig mwy i weithio ar fan hyn. Nid yw'r nifer yn diweddaru pan na fydd aelod wedi allgofnodi gan law. Angen i mi osod 'cron job' er mwyn tacluso'r gweddillion.
Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Mer 11 Maw 2009 11:39 pm
gan Mali
Wel, mi edrychaf allan am y seren / nifer felly !

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

Postiwyd:
Sad 14 Maw 2009 4:37 pm
gan Arthur
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yn ystod y dyddie nesaf byddwn ni'n ychwanegu ambell i nodwedd newydd:
SGWRSIO
NEWYDDION
BLOGIAU
CYSYLLTU
Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan. Os hoffech chi weld unrhyw nodweddion ychwanegol, nodwch isod os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr i 'Duw' am wneud y gwaith o osod y nodweddion newydd!

Dwi di dechrau mwydro ar maes-e rwan.Dwi'n trapped!
Re: Nodweddion Newydd

Postiwyd:
Sad 14 Maw 2009 4:39 pm
gan Arthur
Mali a ddywedodd:Yn edrych ymlaen ......

Wyt ti'n mwynhau Canada?Parlez vous Francais dans l'est Canade?
Re: Nodweddion Newydd

Postiwyd:
Sad 14 Maw 2009 4:49 pm
gan Mali
Arthur a ddywedodd:Mali a ddywedodd:Yn edrych ymlaen ......

Wyt ti'n mwynhau Canada?Parlez vous Francais dans l'est Canade?
Wel dwi 'di bod yma am jyst i bymtheg mlynedd !
Na , dwi ddim yn siarad Ffrangeg.
Gyda llaw croeso i'r maes Arthur .
