Tudalen 1 o 1

Seiat Swyddi

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 7:25 pm
gan Hedd Gwynfor
Falle bod rhai ohono chi wedi sylwi ar y seiat newydd yma. Y rheswm dros ei greu yw bod tipyn o bobl yn ddiweddar wedi gofyn os oes modd iddynt hysbysebu swyddi gwag ar maes-e. Beth fyddai'n gwneud mewn sefyllfa o'r fath yw cychwyn edefyn sy'n cynnwys yr holl wybodaeth, ac wedyn rhoi dolen o faner y cwmni at yr edefyn yna, ond dyw hi ddim bob amser yn hawdd gwybod lle i roi'r edefyn. Felly wele'r seiat newydd yma!

Caiff unrhyw gwmni sydd wedi talu am hysbysebu ar maes-e, osod manylion unrhyw swyddi gwag yma am ddim yn ystod cyfnod yr hysbyseb. Os nad ydych chi eisoes yn hysbysebu, ac os hoffe chi gymryd mantais o'r cynnig yma, pwyswch yma am y manylion llawn am sut i hysbysebu ar maes-e.

Yn anffodus, caniateir i'r cwmniau hynny sy'n talu am hysbysebu ar maes-e yn unig i osod manylion swyddi gwag ar y maes.