Tudalen 1 o 1

Swyddi Gwag - Aseswyr Gwe-brisio i Lionbridge

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 7:43 pm
gan Hedd Gwynfor
Asesydd Gwe-brisio i Lionbridge
Math: Rhan-amser
Parhad: Cyson


Mae Lionbridge Technologies, Inc. (Nasdaq: LIOX) yn ddarparydd blaenllaw ym maes gwasanaethau globaleiddio a phrofi. Mae Lionbridge, sydd wedi’i seilio yn Waltham, Mass., bellach yn cynnal mwy na 50 o ganolfannau datrys mewn 25 o wledydd, gan gynnig gwasanaethau o dan frandiau Lionbridge a VeriTest. I ddysgu mwy, galwch heibio i - http://www.lionbridge.com

Mae’r tîm yn Lionbridge Technologies yn awr yn recriwtio gweithwyr hunangyflogedig rhan-amser sy’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg ac yn byw yng Nghymru i ymuno â’i garfan o Aseswyr Gwe-brisio.

Cymwysterau:
• Gwybodaeth ymarferol dda o’r Saesneg yn hanfodol
• Cymraeg rhugl
• Chwiliwn am bobl sydd â chyswllt â’r Rhyngrwyd ac â chynefindra llwyr â’r maes
• Cefndir TG o gymorth ond heb fod yn hanfodol

Eich gwaith fydd pwyso a mesur chwilyddion gwe. Mae’r oriau’n hyblyg i gydweddu â’ch bywyd cartref a theuluol, felly mae hyn yn ddelfrydol i rywun sy’n ceisio cydbwysedd gwaith-bywyd (10-20 awr yr wythnos).

Cyflwynwch gais i: uk.raters.bal@lionbridge.com gyda chopi o’ch crynodeb yn SAESNEG a llythyr eglurhaol yn sôn am eich rhychwant sgiliau perthnasol, eich hobïau, eich diddordebau a’ch profiad, yn ogystal â’ch cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl.

Pwyswch yma am fwy o fanylion.