Tudalen 1 o 1

Swyddog Technoleg Gwybodaeth, Urdd, Aberystwyth

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 5:10 pm
gan Hedd Gwynfor
Swyddog Technoleg Gwybodaeth - Pwyswch yma am fanylion llawn

urdd-swydd.jpg
urdd-swydd.jpg (9.02 KiB) Dangoswyd 2071 o weithiau


Dyletswyddau

1. Arwain gwaith cynnal a datblygu arddull, cynnwys a thechnoleg gwefannau’r Urdd.
2. Ymgymryd a phrosiectau technoleg gwybodaeth benodol mewn ymgynghoriad a’r Rheolwr Technoleg Gwybodaeth.
3. Cynnal a datblygu systemau bas data, meddalwedd ac offer yr Urdd gan ddewis technoleg addas mewn ymgynghoriad a’r rheolwr.
4. Cynnig cymorth i staff eraill ar sut i wneud y defnydd gorau posib o’r sustemau technoleg gwybodaeth a’r offer. Cynnig hyfforddiant yn achlysurol. Cynnig cymorth cyffredinol i’r Cynorthwy-ydd y We a leolir yn yr un swyddfa.
5. Gosod, datblygu a chynnal systemau rhwydwaith data, cynadleddau fideo a chyfathrebu yr Urdd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn effeithiol at ddibenion staff.
6. Gosod, datblygu a chynnal systemau cyfathrebu a rhwydwaith ar gyfer gweithgareddau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
7. Cynnal systemau diogelu data a gwrth firws.
8. Unrhyw waith achlysurol arall.

Sgiliau

1. Mae cymhwyster gradd mewn technoleg gwybodaeth neu brofiad perthnasol blaenorol yn y maes yn angenrheidiol.
2. Bydd angen meddu ar drwydded yrru a chael defnydd o gar. Bydd angen teithio i swyddfeydd eraill yr Urdd sawl gwaith y mis yn ogystal â digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Gall hyn olygu aros dros nos yn achlysurol (mewn ymgynghoriad a’r Rheolwr). Ar gyfer digwyddiadau fel yr Eisteddfod gall hyn olygu aros oddi cartref a gweithio oriau hirach am gyfnod o hyd at 2-3 wythnos. Bydd modd cymryd yr oriau dyledus yma yn ôl ar adegau cyfleus yn unol a’r amodau gwaith a amlinellir yn Llawlyfr Staff y Mudiad.

Rhaid i geisiadau gyrraedd Enfys Davies, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth. Ceredigion. SY23 1EY erbyn hanner dydd, Mercher 3ydd Medi 2008.