Swydd: Cydlynydd Rhaglen Gyrsiau Cymraeg, Ty Newydd

Swyddi gwag cwmniau sy'n hysbysebu ar maes-e.
Rheolau’r seiat
Caiff unrhyw gwmni sydd wedi talu am hysbysebu ar maes-e, osod manylion unrhyw swyddi gwag yma am ddim yn ystod cyfnod yr hysbyseb. Os hoffe chi gymryd mantais o'r cynnig yma, pwyswch yma am y manylion llawn am sut i hysbysebu ar maes-e.

Swydd: Cydlynydd Rhaglen Gyrsiau Cymraeg, Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Llun 18 Awst 2008 2:57 pm

CYDLYNYDD RHAGLEN GYMRAEG

Mae Tŷ Newydd ar hyn o bryd am gymryd golwg o’r newydd ar y cyrsiau Cymraeg a ddarperir a dymunir dilyn trywydd newydd wrth greu’r rhaglen gyrsiau ar gyfer 2009. I’r diben hwn mae’r ganolfan yn chwilio am berson i greu a marchnata rhaglen o gyrsiau cyffrous fydd nid yn unig yn adeiladu ar raglenni’r gorffennol ond a fydd hefyd yn cynnig cyrsiau newydd ac ysgogol mewn meysydd nad yw Tŷ Newydd wedi’u cynnig o’r blaen.

Bydd y rhaglen newydd hon yn cynnwys o leiaf 10 cwrs preswyl penwythnos a bydd yn gyfuniad o gyrsiau ar y rhaglen “agored” (h.y. pryd bydd y mynychwyr yn archebu fel unigolion) a chyrsiau mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Bydd y swydd yn cynnwys:

Ar gyfer y cyrsiau “agored”:
Trefnu’r dyddiadau a’r tiwtoriaid
Darparu testun ar gyfer deunydd marchnata, trefnu delweddau a chydlynu gyda’r dylunwyr
Marchnata’r cyrsiau
Gwerthuso llwyddiant y rhaglen (bydd hyn yn cynnwys bod yn Nhŷ Newydd am beth amser yn ystod pob cwrs)

Cyrsiau mewn partneriaeth:
Sicrhau parhad y partneriaethau a sefydlwyd eisoes (e.e. Yr Urdd, BBC Radio Cymru, S4/C, Llenyddiaeth Cymru Dramor)
Creu partneriaethau newydd/trefnu partherniaethau cyllido
Gwerthuso llwyddiant y cyrsiau.

FFI:
£3,000 am drefnu a hyrwyddo’r cyrsiau
(i gynnwys yr holl gostau (e.e. teithio, aros dros nos (oni bai fod hyn yn Nhŷ Newydd)
YNGHYD Â £100 am bob cwrs sy’n cael ei gynnal (rhaid i gyrsiau dalu amdanynt eu hunain [fel arfer 8 o fynychwyr ar gwrs “agored”])
YNGHYD Â £150 am bob cwrs “agored” pryd bydd rhagor na 14 o fynychwyr.

GOFYNION:
Gwybodaeth o’r/diddordeb yn yr hyn sy’n mynd â hi yn y maes llenyddol cyfredol yng Nghymru
Gallu i arloesi a dod â syniadau newydd i’r rhaglen
Byddai profiad personol o gyrsiau ysgrifennu creadigol (yn enwedig yn Nhŷ Newydd) o fantais

Gallai’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o Dŷ Newydd neu oddi gartref, ond disgwylir iddo ef/iddi hi ddod i Dŷ Newydd am gyfnod ar y dechrau i dderbyn cyfarwyddyd cychwynnol ac hefyd am gyfnodau yn ystod pob cwrs y mae ef/hi wedi’i drefnu.

I WNEUD CAIS

Anfonwch eich cv ynghyd â llythyr cais sy’n rhoi manylion am:-
1.Eich profiad yn y maes
2.Eich syniadau am 3 chwrs ar y rhaglen “agored” a sut fyddech yn eu marchnata
3.Sut y byddech chi’n hoffi gweld y rhaglen Gymraeg yn Nhŷ Newydd yn datblygu

DYDDIAD CAU: Dylai ceisiadau gyrraedd Tŷ Newydd erbyn 3 Medi, 2008

Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd LL52 0LW
post@tynewydd.org
01766 522811

http://www.tynewydd.org
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd

Re: Swydd: Cydlynydd Rhaglen Gyrsiau Cymraeg, Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Mer 03 Medi 2008 3:21 pm

Sylwer os gwelwch yn dda fod y dyddiad cau bellach wedi'i newid i ddydd Llun, 8fed Medi.
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd


Dychwelyd i Swyddi

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron