Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig angen:
Swyddog Datblygu Iaith Gymraeg
Corff ymgynghorol a ariennir gan y llywodraeth ac sy’n ymrwymedig i ddatblygiad economaidd y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg yw’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG). Mae’r SCG yn gweithio â phawb o labeli recordio i sefydliadau a ariennir ag arian cyhoeddus a chwmnïau rhyngwladol.
----------------------
Swyddog Datblygu Iaith Gymraeg
Cytundeb wedi ei gyllido hyd at Ebrill 2010 gyda phosibilrwydd o estyniad.
Cyflog ac oriau gwaith i'w trafod gyda'r ymgeisydd cywir.
Swydd a gefnogir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yw'r Swyddog Datblygu Iaith Gymraeg ac fe leolir y swydd yn swyddfeydd y SCG ym Mae Caerdydd. Byddwch yn gyfrifol am weithredu strategaeth Cerddoriaeth Cymraeg y SCG. Drwy gydweithio â'r sector greadigol ehangach yng Nghymru a phartneriaid eraill byddwch yn cynghori'r SCG ar bolisi iaith a materion ymarferol yn ymwneud â'r iaith. Byddwch yn gyfrifol am reoli prosiectau sefydlog, adnabod cyfleoedd newydd a chynhyrchu adroddiadau er mwyn hysbysu strategaethau'r SCG a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae dealltwriaeth o'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol a'r materion o bwys sy'n wynebu'r sîn cerddoriaeth Cymraeg.
Er taw swydd yn ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth yw hon, mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn croesawu ceisiadau gan weithwyr proffesiynol ar y lefel yma mewn diwydiannau creadigol eraill.
--------------------------------------------------------------------------------
I dderbyn rhagor o fanylion am y swydd, cysylltwch â:
Lisa Matthews
lisa@welshmusicfoundation.com
02920 494110
Dylai ceisiadau gynnwys CV a llythyr yn cefnogi'r cais.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 2il Ionawr 09
Bydd yr ymgeiswyr fydd yn llwyddo i gael cyfweliad yn cael eu hysbysu ar Ddydd Llun 5ed Ionawr 09
Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd ar Ddydd Mawrth 13eg Ionawr 09