Tudalen 1 o 1

Swydd: Rheolwr Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 11:44 pm
gan Hedd Gwynfor
Delwedd

Gwahoddir ceisiadau am swydd:
Rheolwr
Cae'r Gors: Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts
Lleoliad: Rhosgadfan
Cyflog: £22-25,000 y fl.
Oriau: 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23/01/2009

Mae Cae’r Gors yn ganolfan brysur ble y cynhelir digwyddiadau addysgiadol a diwylliannol, ynghyd ag amgueddfa fechan am hanes yr awdur a’r ardal. Bydd y Rheolwr yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu holl gynlluniau gwaith y Ganolfan, gyda chefnogaeth y Bwrdd Rheoli.

Cytundeb cyfnod penodol o ddwy flynedd i ddechrau.
Croesawir ceisiadau rhan-amser a rhannu swydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.caergors.org neu ffoniwch 01286 831715.


Manylion Pellach

Cyflog: £22-25,000 y flwyddyn - yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.
Oriau: 37 awr yr wythnos. Bydd disgwyl i’r Rheolwr weithio rhai oriau anghymdeithasol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb - yn dilyn cyfnod prawf boddhaol, cynigir swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd. Bwriedir ei ymestyn os bydd cyllid digonol.
Croesawir ceisiadau rhan-amser a rhannu swydd.
Ceisiadau drwy lythyr a CV.
Penodiad yn amodol ar eirda a phrawf meddygol boddhaol a gwiriad CRB.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 2il Chwefror 2009

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Chae'r Gors ar 01286 831 453 / 715.

Re: Swydd: Rheolwr Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 11:17 pm
gan Hedd Gwynfor
**bwmp**